Afon Main
Afon yn yr Almaen sy'n llifo i mewn i afon Rhein yw afon Main. Mae'n 524 km (329 milltir) o hyd, and yn llifo trwy daleithiau ffederal Bafaria, Baden-Württemberg a Hessen.
Afon Main yn llifo trwy Würzburg | |
Math | afon |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bafaria, Baden-Württemberg, Hessen |
Gwlad | yr Almaen |
Uwch y môr | 83 metr |
Cyfesurynnau | 49.9944°N 8.2933°E, 50.0864°N 11.3983°E, 49.9944°N 8.2933°E |
Tarddiad | Upper Franconia, Red Main, White Main |
Aber | Afon Rhein |
Llednentydd | Regnitz, Tauber, Franconian Saale, Kinzig, Nidda, Afon Itz, Wern, Gersprenz, Baunach, Rodach, Schwarzbach, Biberbach, Zentbach, Ziegelbach, Gründleinsbach, Thierbach, Aalbach, Schwarzach, Weismain, Käsbach, Breitbach, Liederbach, Leuchsenbach, Altenbach (Main), Mümling, Kelster, Aschaff, Haslochbach, Unkenbach, Motschenbach, Häckergrundbach, Luderbach, Sulzbach, Faulbach, Karbach, Röllbach, Heubach, Leitenbach, Wildbach, Hensbach, Volkach, Hafenlohr, Pleichach, Welzbach, Nassach, Forchbach, Schifflache, Sindersbach, Wickerbach, Erf, Lohr, Elsava, Mud, Hainbach, Rodau, Kahl, Erlenbach, Weilbach, Rechtenbach (Main), Kellbach, Röttbach, Silberlochbach, Wittbach, Glasbach, Sackenbach, Flutgraben (Welzbach), Hennertsgraben, Schweppach, Seltenbach (Main), Sendelbach (Main), Steinbach (Main, Würzburg), Weidbach, Hartsgraben, Bischbach, Kembach, Erleinsbach |
Dalgylch | 27,292 cilometr sgwâr |
Hyd | 524 cilometr |
Arllwysiad | 195 metr ciwbic yr eiliad |
Ceir tarddle'r afon ger Kulmbach, lle mae dwy afon, y Main Goch a'r Main Wen yn cyfarfod. Tardda'r Main Goch yn yr Alb Ffrancaidd, ac mae'n llifo trwy Creussen a Bayreuth, tra mae'r Main Wen yn tarddu ym mynyddoedd y Fichtelgebirge.
Llifa'r afon heibio dinasoedd Würzburg a Frankfurt am Main, cyn ymuno ag afon Rhein gyferbyn a Wiesbaden. Ers 1992, mae'r Main wedi ei chysylltu ag Afon Donaw trwy Gamlas Rhein-Main-Donaw.