Afon Lek
Afon yn yr Iseldiroedd yw Afon Lek. Mae'n un o ganghennau Afon Rhein.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Grote rivieren |
Sir | Zuid-Holland, Gelderland, Utrecht |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 51.8903°N 4.6316°E |
Aber | Nieuwe Maas |
Llednentydd | Nederrijn |
Hyd | 62 cilometr |
Dechreua afon Lek ger Wijk bij Duurstede, lle mae'r Nederrijn yn newid ei henw i'r Lek. Ger Kinderdijk mae'n ymuno ag Afon Noord i ffurfio afon Nieuwe Maas. Mae hyd y Lek yn 62 km.
Yn wreiddiol, un o hen sianeli'r Rhein oedd y Lek. Daeth yn afon gyda llif sylweddol o ddŵr ynddi yn y cyfnod Rhufeinig. Nid oes dinasoedd mawr ar y Lek, ond mae nifer o ddinasoedd bychain hanesyddol megis Wijk bij Duurstede, Culemborg, Vianen, Ameide, Nieuwpoort a Schoonhoven.