Afon Ljubljanica
Afon sy'n llifo drwy Slofenia yw Afon Ljubljanica. Saif prifddinas y wlad, Ljubljana, ar ei rhannau isaf. Mae'n ymestyn 41 km o'i ffynhonnell ger Pivka yn ne-orllewin Slofenia hyd ei haber ag Afon Sava, tua 10 km i'r dwyrain o Ljubljana. Mae tua 20 km o'i hyd yn gorwedd o dan y ddaear mewn ogofâu. Adnabyddir yr afon hefyd ar ddarnau o'i hyd fel Afon Trbuhovica, Afon Obrh, Afon Stržen, Afon Rak, Afon Pivka ac Afon Unica. Mae'r enw Ljubljanica yn tarddu o enw'r brifddinas.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Ljubljana City |
Gwlad | Slofenia |
Cyfesurynnau | 46.076°N 14.64919°E, 45.95731°N 14.30131°E |
Tarddiad | Retovje Springs |
Aber | Afon Sava |
Llednentydd | Iška, Gradaščica, Besnica, Bistra, Borovniščica, Mala Ljubljanica, Unica |
Dalgylch | 1,890 cilometr sgwâr |
Hyd | 85 cilometr |
Arllwysiad | 25 metr ciwbic yr eiliad |
Statws treftadaeth | monument of national significance |
Manylion | |