Ljubljana
Prifddinas a dinas fwyaf Slofenia yw Ljubljana (Eidaleg Lubiana, Almaeneg Laibach, Lladin newydd Labacus). Saif ar Afon Ljubljanica yng nghanol y wlad yn nhalaith hanesyddol Carniola. Hon yw canolfan wleidyddol, masnachol a diwylliannol Slofenia. Mae'n gartref i archesgobaeth babyddol ynghyd â phrifysgol hyna'r wlad. Symbol y ddinas yw'r ddraig werdd a welir ar ei harfbais. Ei phoblogaeth yw 265,881 (2002).
Math | dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, national capital |
---|---|
Poblogaeth | 284,293 |
Pennaeth llywodraeth | Zoran Janković |
Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Graz, Tbilisi |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Slofeneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Ljubljana City |
Gwlad | Slofenia |
Arwynebedd | 163.76 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 309 metr |
Gerllaw | Afon Sava, Afon Ljubljanica |
Cyfesurynnau | 46.0514°N 14.5061°E |
Cod post | 1000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Zoran Janković |
Tarddiad yr enw
golyguMae angytundeb ynghlŷn â tharddiad enw'r ddinas. Mae tri phosibilrwydd wedi cael eu hawgrymu ar gyfer tarddiad yr enw Slofeneg:
- oddi wrth enw'r duw Slafonaidd Laburus, efallai nawdd-dduw y dreflan wreiddiol
- oddi wrth y Lladin alluviana 'afon sy'n gorlifo, afon mewn llif' wedi'i ddefnyddio fel enw priod
- oddi wrth y Slofeneg ljubljena 'annwyl, cu, cariadus'; mae'n debyg taw tarddiad gwerin yn unig yw hyn
Mae'n bosib i'r enw Almaeneg ar gyfer y ddinas, Laibach, darddu o lau 'llugoer' a bach 'nant'. Yn sicr, daw o enw'r afon y saif Ljubljana arni. Ceir y terfyniad -ach ar lawer o enwau afonydd yn Awstria a de'r Almaen. Erbyn heddiw tueddir i ddefnyddio'r enw Slofeneg hyd yn oed yn yr Almaen.
Daearyddiaeth
golyguMae Afon Sava yn llifo drwy maestrefi gogleddol y ddinas.
Hanes
golyguEr i'r Rhufeiniaid sefydlu treflan Emona (Colonia Emona) ar safle Ljubljana, sefydlwyd y ddinas bresennol gan wladychwyr Almaenig o Bayern. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas bresennol, dan ei enw Almaeneg Laibach, yn dyddio i'r flwyddyn 1144. Daeth y dref o dan reolaeth y Hapsburgiaid yn 1335. Heblaw am gyfnod fyr, arhosodd o fewn Ymerodraeth Awstria-Hwngari tan 1918. Sefydlwyd yr esgobaeth yno yn 1461. Adeg Rhyfeloedd Napoleon, Ljubljana fu prifddinas y taleithiau Ilyraidd am gyfnod rhwng 1809 a 1813. Roedd y boblogaeth wedi bod yn siarad Almaeneg yn bennaf o'r cychwyn, ond yn y 19g daeth Ljubljana yn ganolfan o ddiwylliant Slofeneg. Erbyn cyfrifiad 1880, roedd y siaradwyr Almaeneg (23% o'r boblogaeth) wedi dod yn lleiafrif. Difrodwyd y ddinas yn ddifrifol mewn daeargryn yn 1895. Mae llawer o bensaernïaeth y ddinas heddiw yn dyddio o'r cyfnod ar ôl y daeargyn, pryd ailadeiladwyd y ddinas mewn arddull neo-glasurol ac art nouveau. Cwplhawyd cyfran helaeth o'r adeiladu yn ôl cynlluniau'r pensaer brodorol Jože Plečnik yn y 1920au a'r 1930au. Gyda gorchfygiad Awstria-Hwngari yn y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Ljubljana yn rhan o Deyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (wedyn Iwgoslafia). Meddiannwyd Ljubljana gan luoedd yr Eidal yn Ebrill 1941. Dan weinyddiaeth yr Eidal, Lubiana oedd enw swyddogol y ddinas, a chyflwynywd polisi i Eidaleiddio'r ddinas. Parhaodd rheolaeth yr Eidal tan 1943, pryd cipiwyd y ddinas gan luoedd Almaenig. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, Ljubljana oedd prifddinas Gweriniaeth Sosialaidd Slofenia o fewn ffederasiwn Iwgoslafia, ac, ar ôl datganiad annibyniaeth Slofenia yn 1991, prifddinas Gweriniaeth Slofenia.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Castell Ljubljana
- Eglwys Gadeiriol Sant Niclas
- Eglwys Sant Pedr
- Nebotičnik
- Pont y Ddraig
Enwogion
golygu- Marko Pohlin (1735-1801), awdur
- Vladimir Šubic (1894-1946), pensaer
Gefeilldrefi
golygu
|