Afon Medway

afon yn Lloegr

Afon yng Nghaint gyda hyd byr yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Medway. Mae'n codi yn y Weald yng Ngorllewin Sussex ger pentref Turners Hill, ac yn llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain am 110 km (70 mi) trwy Gaint i aberu yn Afon Tafwys ger Sheerness. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy Tonbridge, Maidstone, Rochester, Chatham a Gillingham. Mae ganddi ddalgych o 2,400 km² (930 mi²) – y dalgylch ail fwyaf yn ne Lloegr ar ôl Afon Tafwys – sy'n cynnwys chwe phrif isafon a llawer o lednentydd llai.

Afon Medway
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Canol Sussex, Bwrdeistref Tonbridge a Malling, Medway Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.4492°N 0.7383°E, 51.1767°N 0.1475°W, 51.4492°N 0.7383°E Edit this on Wikidata
TarddiadTurners Hill Edit this on Wikidata
AberAfon Tafwys Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Eden, East Malling Stream, Loose Stream, Afon Beult, Afon Bourne, Afon Len, Afon Teise, Wateringbury Stream Edit this on Wikidata
Dalgylch2,409 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd113 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad90 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Dyma'r prif isafonydd:

Yn y gorffennol roedd yr afon yn bwysig fel ffordd o gludo nwyddau, a byddai cychod trwm yn mynd i fyny'r afon cyn belled â Tonbridge. Mae un ar ddeg o lociau rhwng Allington a Tonbridge

Brwydr Afon Medway

golygu

Yn y flwyddyn OC 43 ymladdwyd brwydr fawr rhwng llwyth Celtaidd y Catuvellauni a'r Rhufeiniaid ar lan yr afon, ar safle rhywle yng nghyffiniau Rochester. Caradog a’i frawd Togodumnus a arweiniodd lluoedd y Catuvellauni yn erbyn y fyddin Rufeinig dan Aulus Plautius. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid yn y frwydr honno ac mewn brwydr arall ar lan Afon Tafwys wedyn a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin i deyrnas y Silwriaid.

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.