Caint

swydd serimonïol yn Lloegr

Swydd seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km². Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.

Caint
Arms-kent.jpg
Math swyddi seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Prifddinas Maidstone Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,846,478 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir De-ddwyrain Lloegr, Lloegr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 3,738.4799 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Essex, Dwyrain Sussex, Surrey, Llundain Fwyaf Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.19°N 0.73°E Edit this on Wikidata
Baner Caint
Lleoliad Caint yn Lloegr

Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop – dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cap Gris-Nez, gogledd Ffrainc.

Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng "Caint" a'r gair Cymraeg cantel ('ymyl'), gan ei bod ar "ymyl" Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma yr Iwtiaid a greasant deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y 5g, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol brin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg,[1] er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.[2]

Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y 6g.

Enw arall a roddir ar Gaint yw'r "Garden of England" ("Gardd Lloegr") oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ("oast-houses"), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaethGolygu

Ardaloedd awdurdod lleolGolygu

Rhennir y swydd yn ddeuddeg ardal an-fetropolitan ac un awdurdod unedol:

  1. Ardal Sevenoaks
  2. Bwrdeistref Dartford
  3. Bwrdeistref Gravesham
  4. Bwrdeistref Tonbridge a Malling
  5. Medway – awdurdod unedol
  6. Bwrdeistref Maidstone
  7. Bwrdeistref Tunbridge Wells
  8. Bwrdeistref Swale
  9. Bwrdeistref Ashford
  10. Dinas Caergaint
  11. Ardal Folkestone a Hythe
  12. Ardal Thanet
  13. Ardal Dover

Etholaethau seneddolGolygu

Rhennir y swydd yn 17 etholaeth seneddol yn San Steffan:

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Kenneth Jackson, Language and History in Early Britain (Caeredin: Edinburgh University Press, 1953), t. 246
  2. R. G. Collingwood a J. N. L. Myers, Roman Britain and the English Settlements (Rhydychen, 1937), tt. 427-8