Afon Rother (Dwyrain Sussex)

afon yn Nwyrain Sussex a Chaint

Afon yn Nwyrain Sussex a Chaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Rother. Mae'n codi ger Rotherfield yn Nwyrain Sussex, mae'n llifo am 56 km (35 mi) ac yn cyrraedd y Môr Udd ger Rye. Cyn 1287 roedd ei haber ymhellach i'r dwyrain ym mhorthladd New Romney yng Nghaint, ond fe newidiodd ei chwrs ar ôl i storm fawr rwystro ei allanfa i'r môr.

Afon Rother
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Sussex, Caint Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.929438°N 0.773184°E Edit this on Wikidata
AberMôr Udd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Brede Edit this on Wikidata
Dalgylch970 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd56 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ar hyd y 23 km (14 mi) olaf, mae gwely'r afon yn is na lefel y penllanw, a defnyddir llifddor Scots Float i reoli lefelau. Mae'r llifddor yn atal dŵr hallt rhag mynd i mewn i system yr afon yn ystod penllanwau, ac yn cadw dŵr yn yr afon yn ystod misoedd yr haf er mwyn sicrhau iechyd cynefin y gors o'i amgylch. I lawr yr afon o'r llifddor, mae'n llanwol am 6 km (3.7 mi).

Mae'r afon wedi cael ei defnyddio i gludo nwyddau ers cyfnod y Rhufeiniaid, ac mae cychod bach yn dal i fordwyo cyn belled â Chastell Bodiam.

Cwrs Afon Rother