Afon Sèvre Nantaise
Afon yng ngorllewin Ffrainc sy'n un o lednentydd Afon Loire yw Afon Sèvre Nantaise.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 46.65°N 0.4417°W, 47.1972°N 1.5472°W |
Tarddiad | Secondigny |
Aber | Afon Loire |
Llednentydd | Maine, Crûme, Sanguèze, Ouin, Moine, Vertonne |
Dalgylch | 2,360 cilometr sgwâr |
Hyd | 141.8 cilometr |
Arllwysiad | 9.5 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Mae'r afon yn tarddu ar uchder o 215 medr ger pentref Gâs, commune Neuvy-Bouin yn département Deux-Sèvres, sy'n cael ei enw o'r afon yma ac Afon Sèvre Niortaise. Mae'n llifo tua'r gogledd-orllewin trwy départements Vendée, Maine-et-Loire a Loire-Atlantique cyn llifo i afon Loire gerllaw Naoned, Nantes yn Ffrangeg, sy'n rhoi ei henw i'r afon.
Mae'n llifo trwy drefi Mortagne-sur-Sèvre, Clisson, Vertou a Rezé. Ceir llawer o felinau dŵr ar hyd yr afon.