Ffrangeg

iaith Romáwns

Mae'r Ffrangeg (français, IPA [fʁɑ̃sɛ]) yn iaith Romáwns sy'n cael ei siarad yn frodorol yn Ffrainc, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yng Wlad Belg, y Swistir, Monaco, broydd Québec ac Acadia yng Nghanada, yn ogystal â chymunedau eraill, fel y Caribî. Yn wir, siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd yn y byd.

Ffrangeg
La langue française
Ynganiad IPA [fʁɑ̃sɛ]
Siaredir yn Gweler isod
Cyfanswm siaradwyr 68 miliwn (2005)[1] hyd at 115 miliwn (2010)[2]
Siaradwyr brodorol ac L2: 265–500 miliwn[3]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Gwyddor Ffrangeg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn


Nifer o sefydliadau rhyngwladol
Rheoleiddir gan Académie française (Acadami y Ffraneg)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 fr
ISO 639-2 fre (B)  fra (T)
ISO 639-3 fra
Wylfa Ieithoedd 51-AAA-i
Ffrangeg y byd
Ffrangeg yn y byd
Allwedd:
Glas tywyll: mamiaith;
Glas: iaith gweinyddol;
Glas golau: iaith diwylliant;
Gwyrdd: lleiafrif Ffrangeg.

Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg fel ail iaith yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.

Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.

Ymadroddion cyffredin golygu

  • français : Ffrangeg
  • gallois : Cymraeg
  • anglais : Saesneg
  • salut ! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
  • ça va ? : sut mae?
  • bonjour ! : bore/p'nawn da!
  • bonsoir ! / bonne soirée! : noswaith dda!
  • au revoir ! : da boch chi! / Hwyl fawr!
  • bonne nuit ! : nos da!
  • excusez-moi ! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
  • pardon ! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
  • s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
  • merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch â dweud merci ! nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch je veux bien ! yn hytrach na merci ! neu gewch chi 'mohono fe.)
  • merci bien : diolch
  • merci beaucoup : diolch yn fawr
  • de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
  • (je suis) desolé(e) : mae'n flin gen i
  • oui : ie / do / oes etc.
  • si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno â rhywun.
  • non : nage / naddo / nag oes etc.
  • Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
  • À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!

Dywediadau golygu

  • bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
  • Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
  • Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
  • oh là là! : o diar!

Geiriau diddorol golygu

  • baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
  • chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Wikipedia
Argraffiad Ffrangeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Chwiliwch am Ffrangeg
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.