Afon Semois
Afon sy'n llifo o ucheldir yr Ardennes yn Ffrainc a Gwlad Belg i gymer ar Afon Meuse yw Afon Semois (Iseldireg: Simwès; Almaeneg: Semoy, Sesbach; weithiau hefyd Semoy yn Ffrainc).
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc Gwlad Belg |
Cyfesurynnau | 49.681767°N 5.8203°E, 49.8806°N 4.7383°E |
Tarddiad | Arlon |
Aber | Afon Meuse |
Llednentydd | Rulles, Antrogne, Membrette, Saint-Jean, Vierre, Aleines, Bohan, Ruaumolin, Ruisseau de Rebais, Gros Fays, Muno, Parfondruth, Vieille Riviere |
Dalgylch | 1,329 cilometr sgwâr |
Hyd | 210 cilometr |
Arllwysiad | 35 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Gorwedd tarddle afon Semois yn Arlon yn nhalaith Felgaidd Lwcsembwrg, ger y ffin a Lwcsembwrg ei hun. Oddi yno mae'n ffinio ar gwrs gorllewinol i FFrainc ar ôl llifo trwy bentref Belgaidd Bohan-sur-Semois i'w chymer ar afon Meuse ym Monthermé. Ei hyd yw 210 km.
Mae lleoedd eraill ar lannau afon Semois yn cynnwys Chiny, Florenville, Herbeumont, Bouillon (yn cynnwys Dohan a Poupehan), a Vresse-sur-Semois (i gyd yng Ngwlad Belg).