Ardennes
Bryniau yng Ngwlad Belg a Lwcsembwrg, a hefyd yn ymestyn dros y ffin i Ffrainc yw'r Ardennes (Ffrangeg: Ardennes, Iseldireg: Ardennen). Cafodd département Ardennes a region Champagne-Ardenne yn Ffrainc eu henwau o'r bryniau.
Math | low mountain range |
---|---|
Enwyd ar ôl | Arduinna |
Daearyddiaeth | |
Sir | Walonia, Ardennes |
Gwlad | Gwlad Belg, Lwcsembwrg, Ffrainc |
Arwynebedd | 76,422 km² |
Cyfesurynnau | 50.25°N 5.67°E |
Hyd | 389 cilometr |
Cadwyn fynydd | Rhenish Massif |
Mae'r Ardennes yn ardal goediog, gyda bryniau tua 350–500 m (1,148-1,640 troedfedd) o uchder, ond yn cyrraedd 650 m (2,132 troedfedd) yn yr Hautes Fagnes (Hohes Venn) yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Belg. Llifa nifer o afonydd trwy'r bryniau; y pwysicaf yw Afon Meuse. Y dinasoedd mwyaf yw Verviers yng Ngwlad Belg a Charleville-Mézières yn Ffrainc.
Daw'r enw o Arduenna Silva, fforest enfawr yn y cyfnod Rhufeinig, oedd yn ymestyn o afon Sambre hyd afon Rhein. Enwyd y fforest ar ôl y dduwies Arduinna.
Oherwydd safle strategol yr Ardennes, bu llawr o ymladd yma tros y canrifoedd, yn cynnwys brwydrau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.