Afon Tay
Afon Tay (Gaeleg yr Alban: Tatha) yw afon hwyaf yr Alban, 193 km (120 milltir) o hyd. Hi yw afon fwyaf Prydain o ran llif y dŵr, 170 m³ yr eiliad. Mae'n tarddu yn Ucheldiroedd yr Alban ac yn llifo trwy Strathtay a thrwy ganol dinas Perth i gyrraedd y môr ym Moryd Tay ar arfordir dwyreiniol yr Alban, i'r de o ddinas Dundee.
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Perth a Kinross, Stirling ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
56.355°N 3.298°W, 56.40583°N 4.77897°W, 56.45742°N 2.87481°W ![]() |
Tarddiad |
Ucheldiroedd yr Alban ![]() |
Aber |
Moryd Tay ![]() |
Llednentydd |
River Tummel, River Earn, Afon Isla, Afon Dochart, Afon Almond, Afon Braan, Afon Lyon ![]() |
Dalgylch |
6,216 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
193 cilometr ![]() |
Arllwysiad |
170 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd |
Loch Tay ![]() |
![]() | |
Ceir tarddle'r afon tua 20 milltir o Oban ar arfordir golllewinol yr Alban, dan yr enw afon Connonish, ac yn nes ymlaen yn afon Fillan. Newidia'r enw eto i afon Dochart cyn iddi lifo i mewn i Loch Tay yn Killin. Dim ond wrth iddi adael Loch Tay y gelwir hi yn afon Tay. Mae'r afon yn enwog am ei physgota eog.