Stirling (awdurdod unedol)
Un o awdurdodau unedol yr Alban yw Stirling (Gaeleg yr Alban: Sruighlea). Y ganolfan weinyddol yw tref Stirling, ac mae'r boblogaeth tua 85,000.
Math | un o gynghorau'r Alban, Ardal yn yr Alban |
---|---|
Prifddinas | Stirling |
Poblogaeth | 94,210 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 2,186.9685 km² |
Cyfesurynnau | 56.2533°N 4.3259°W |
Cod SYG | S12000030 |
GB-STG | |
Mae'n ffinio â Falkirk, Perth a Kinross, Argyll a Bute, Dwyrain Swydd Dunbarton, Gorllewin Swydd Dunbarton a Swydd Clackmannan. Ffurfiwyd yr awdurdod yn 1996, yn dilyn ffiniau ardal Stirling o hen awdurdod Central. Mae'n cyfateb i'r rhan fwyaf o hen Swydd Stirling, heblaw Falkirk, a de-orllewin hen Swydd Perth.