Afon Tees
Afon yng ngogledd Lloegr yw Afon Tees. Mae'n tarddu ar lechwedd ddwyreiniol bryn Cross Fell yn y Pennines, ac yn llifo ar gwrs i gyfeiriad y dwyrain am 85 milltir (132 km) i aberu ym Môr y Gogledd, rhwng Hartlepool a Redcar. Mae ei dalgylch yn cynnwys 708 milltir sgwar (1834 km sgwar), ond ni cheir llednentydd sylweddol. Yn yr Oesoedd Canol Cynnar nodai'r afon ffin teyrnas Deifr. Yn fwy diweddar, nodai'r ffin rhwng hen siroedd Durham ac Efrog. Yn ei rhan isaf heddiw mae'n ffurfio'r ffin rhwng siroedd seremonïol Swydd Durham a Gogledd Swydd Efrog.
Math | afon |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Durham |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.6333°N 1.15°W, 54.7006°N 2.4664°W, 54.622381°N 1.156311°W |
Aber | Môr y Gogledd |
Llednentydd | Afon Balder, Afon Greta, Afon Leven, Afon Lune, Afon Skerne |
Dalgylch | 1,834 cilometr sgwâr |
Hyd | 137 cilometr |
Llynnoedd | Cow Green Reservoir |