Afon Velinji

afon yng Nghernyw

 

Mae Afon Velinji (Cernyweg: Dowr an Velinji) yn afon fer yng ngogledd Cernyw, DU, gyda llawer o lednentydd bach. Wedi rhedeg heibio Lesnewth mae'n dilyn dyffryn cyn cyrraedd y môr yn harbwr pentref Kastel Boterel/Boscastle. Un o'i llednentydd yw'r afon Jordan, sy'n rhedeg 2km i'r gogledd cyn ymuno â'r Velinji yn Kastel Boterel/Boscastle ychydig cyn pont ffordd y B3263.

Ffynhonnell y Velinji

Mae dyffryn Velinji yn serth ac mae ochrau'r rhan isaf yn goediog. Mae'r dyffryn wedi bod dan ddŵr sawl gwaith, yn fwyaf difrifol yn ystod llifogydd Boscastle yn 2004 pan erydwyd y sianel yn sylweddol. [1] (Arweiniodd glaw trwm am 7 awr dros ardal eang yn y prynhawn ar 16 Awst 2004 at lifogydd difrifol a difrod strwythurol.) Mae'r defnydd amaethyddol a draeniad cyflym o fewn dalgylchoedd y Valinji a'r Joran yn gysylltiedig â graddau llifogydd Boscastle.

Geirdarddiad golygu

Mae'r enw wedi'i esbonio fel llygriad o'r Cernyweg Melinjy (h.y. Melin-Chy = Melin-dŷ, gyda'r gair Cernyweg am 'tŷ', sef 'chi', wedi ei dreiglo i 'jy') o'r felin a fodolai yn y canol oesoedd.

Cyfeiriadau golygu