Llifogydd
Ceir llifogydd neu llif pan mae dŵr yn gorlifo'r tir. Gellir defnyddio "llif" hefyd am symudiad dŵr neu hylif arall, er enghraiift llif afon, tra mae "llifogydd" yn cyfeirio'n benodol ar orlifo.
Gellir cael llifogydd pan mae maint y dŵr mewn afon neu lyn yn mynd yn ormod i'w gynnwys ynddo, ac yn gorlifo'r glannau. Mae hyn yn digwydd fel arfer o ganlyniad i law trwm. Mewn aber, gall cyfuniad o wynt cryf a llanw uchel achosi llifogydd. Gall llifogydd hefyd ddilyn digwyddiad arall, megis argae yn torri neu ddaeargryn.
Ymhlith effeithiau llifogydd, ceir boddi pobl ac anifeiliaid, difrod i eiddo, halogi cyflenwadau dŵr gan arwain at brinder o ddŵr yfed a difetha cnydau, gan arwain at brinder bwyd.
Canfyddiad pobl a ffyrdd o reoli llifogydd
golyguY canfyddiad yw'r ffordd mae pobl yn ystyried perygl. Mae canfyddiad pobl yn dibynnu ar nifer o ffactorau a gall ei chanfyddiad cael dylanwad mawr ar ei pharodrwydd i baratoi ac ymateb i'r digwyddiad. Mae nifer o bobl yn penderfynu byw mewn ardaloedd peryglus. Gall hyn fod am amryw o resymau:
- Pobl yn anwybyddu'r perygl ac yn gobeithio ni fydd unrhyw beth yn digwydd.
- Pobl yn cael ei geni mewn ardal, nid oes dewis ganddynt.
- Rhai pobl yn asesu'r risg ac yn penderfynu bod y risg yn werth ei gymryd. Enghraifft dda ydy pobl Bangladesh, sy'n ddewis fyw yno oherwydd bod y gorlifdir yn dir ffrwythlon.
Ffactorau sy'n effeithio ar ganfyddiad pobl:
- Amser- Os mae'r llifogydd yn digwydd yn gyflym oherwydd ffactorau megis basn afon fach iawn, fe fydd yn cael ei ystyried yn fwy peryglus.
- Amlder- Os yw'r llifogydd yn digwydd yn aml, fe fydd yn cael ei ystyried yn fwy peryglus ac yn boendod.
- Sylw'r Cyfryngau- Y fwyaf yw'r ymdriniaeth ar y cyfryngau, y fwyaf yw ymwybyddiaeth y bobl o'r perygl.
- Nifer o farwolaethau- Os mae yna nifer mawr o bobl wedi marw yn y gorffennol yn yr ardal neu mae rhagdybiaethau yn gweld marwolaethau, fe fydd pobl yn ystyried hyn fel perygl.
- Addysg- Y well yw addysg ardal, y well yw ymwybyddiaeth y bobl o'i hamgylchfyd.
Atal Llifogydd
golyguMae llifogydd yn digwydd yn naturiol, ond wrth i fodau dynol byw mewn ardaloedd sy'n fwy archolladwy, mae'r effeithiau yn llawer fwy. Er hyn, mae datblygiadau mewn technoleg wedi cynorthwyo ni lleihau'r effeithiau a hefyd lleddfu'r diamddiffynrwydd.
Adeiladu Argloddiau
golyguMae argloddiau yn cynyddu cynhwysedd afonydd. Mae hyn yn cynyddu cynhwysedd yr afon ac felly gall dal mwy o ddŵr yn ystod cyfnod gwlyb. Mae cynlluniau yn gweithio ond maent yn ddrud. Yr unig anfantais yw bod y cynlluniau yma yn gwaethygu'r problemau i fynnu’r afon oherwydd mae'r argloddiau yn arafu cyflymder y cerrynt.
Sythu a Dyfnhau sianeli
golyguMae afon yn gallu llifo'n gynt pan mae'n dyfnach. Mae cynlluniau fel hyn yn cael ei defnyddio pan mae afon yn llifo trwy ardaloedd trefol er mwyn lleihau posibilrwydd cael llifogydd, ond maent yn ddrud. Mae sythu afonydd yn cael yr un effaith, ond gall creu problemau pan mae'r dŵr yn mynd nôl i ddilyn ei chwrs naturiol.
Argaeau
golyguPwrpas argae yw cadw dŵr ychwanegol mewn cronfa a'i rhyddhau yn araf. Mae argaeau yn ddrud ac mae pobl yn gwrthwynebu iddynt oherwydd maent yn cymryd lan llawer o dir ac nid yw pobl yn hoff o'r syniad o fyw dan gronfa fawr o ddŵr. Rhaid hefyd sicrhau fod yna digon o le yn y gronfa ar gyfer y gormodedd o ddŵr.
Gwahanfur
golyguRhwystr dros dro ydy gwahanfur. Caiff ei agor a chai yn dibynnu ar lefelau dwr. Mae'n yn effeithiol ond eto'n ddrud. Mae'n rhaid cael rhywun yn gyfrifol am agor a chai nhw.
Paratoi golchdir
golyguDyma pan mae yna ardal o dir yn cael ei pharatoi ar gyfer dwr ychwanegol o'r afon. Mae yna nifer o gynlluniau ar gael ar draws y byd, maent yn effeithiol iawn ac yn rhatach.