Agored
Fersiwn Cymraeg o'r meddalwedd swyddfa OpenOffice oedd Agored. Cafodd prosiect Agored ei gydlynu gan Ganolfan Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd gefnogaeth ariannol gan Yr Undeb Ewropeaidd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, S4C a Llywodraeth Cymru a alluogwyd cyflogi cyfieithwyr allanol a rhaglennydd meddalwedd.[1] Seiliwyd y cyfieithiad o'r rhyngwyneb ar y cyfieithiad Cymraeg o OpenOffice.org 2.0 gan Rhoslyn Prys a David Chan. Adolygwyd y cyfieithiad hwnnw'n drwyadl, ychwanegwyd cyfieithiad o'r sgriniau cymorth a'r botwm newid iaith ac fe gafodd llawlyfr cwbl wreiddiol Defnyddio Agored ei gyhoeddi.[2]
Lansiwyd y pecyn ar y 1af o Dachwedd 2006, yn seiliedig ar fersiwn 2.0 o OpenOffice ac yn cynnwys Calc 4, Draw 5, Impress 6 a Math 7. Ni ddiweddarwyd Agored tu hwnt i fersiwn 2.0 ond parhaodd gwirfoddolwyr i gyfieithu OpenOffice.org i'r Gymraeg hyd at fersiwn 3.2.1 yn 2010 pan gafodd y brosiect yno ei drosglwyddo i Apache. Ers hynny, mae'r rhyngwyneb Cymraeg wedi ei ddiweddaru a'i gadw yn gyfredol ym mhob fersiwn newydd o'r rhaglen LibreOffice gan y Document Foundation.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lloyd-Morgan, Ceridwen (Rhagfyr 2006/Ionawr 2007). Cymraeg, Cantoneeg a chôd agored. Barn (Copi ar-lein)
- ↑ Lansio meddalwedd swyddfa agored. Prifysgol Aberystwyth (16 Tachwedd 2006). Cyrchwyd 25 Hydref 2012