Bwrdd yr Iaith Gymraeg

corff rheoli iaith sy'n gwarchod a hyrwyddo Cymraeg yng Gymru

Corff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau. Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlu'r Bwrdd.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Datblygu'r Gymraeg trwy Gymru
Datblygu'r Gymraeg trwy Gymru

Arwyddair"Gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd."[1]
PencadlysCaerdydd, Caerfyrddin, a Chaernarfon
Iaith / Ieithoedd swyddogolCymraeg
Prif WeithredwrMeirion P. Jones
SefydlwydRhagfyr 1993
DiddymwydMawrth 2012
MathAsiantaeth weithredol
LleoliadCymru
CyllidebDim cyllideb, ond yn cael grant blynyddol gan y llywodraeth o £12m
Gwefanhttp://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx
Hysbyseb teledu siarad Cymraeg.

Cadeirydd cyntaf y Bwrdd oedd Dafydd Elis-Thomas. Y cadeirydd o Awst 2004 hyd 2012 oedd Meri Huws.

Agweddau at y BwrddGolygu

Beirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.

Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.

DiddymuGolygu

Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 dan delerau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Trosglwyddwyd ei ddyletswyddau i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg, swydd newydd a grëwyd dan y mesur.

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu