Ahmad Kheireddine
Roedd Ahmad Kheireddine (1905 - 25 Gorffennaf 1967) yn fardd a dramodydd yn yr iaith Arabeg o Diwnisia.
Ahmad Kheireddine | |
---|---|
Ganwyd | 1905 Tiwnis |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1967 |
Dinasyddiaeth | French protectorate of Tunisia, Tiwnisia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
O dras Dyrcaidd, cafodd ei eni mewn amgylchiadau digon tlawd mewn ardal dosbarth gweithiol yn Nhiwnis. Gorffenodd ei astudiaethau yng ngholeg La Zitouna, yn y brifddinas, trwy ddarlen cyfieithiadau Arabeg o weithiau llenyddol Gorllewinol. Ond ymddiddorai yn y traddodiad brodorol yn ogystal, ac aeth ati i astudio mydryddiaeth Arabeg a'i cherddoriaeth.
Roedd yn aelod o un o'r grwpiau llenyddol-wleidyddol yn Nhiwnis a wrthwynebai reolaeth Ffrainc ar eu gwlad. Ysgrifennodd nifer o ddramâu, rhai ohonyn' nhw'n seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, er enghraifft al-Kâhina (1937) sy'n bortread o'r arwres El Kahena a arweiniodd y Berber yn erbyn y goresgynwyr Arabaidd yn y 6g. Golygodd sawl cylchgrawn llenyddol a gwleidyddol.
Roedd yn fardd dawnus yn ogystal a ganai ar y mesurau poblogaidd; mae rhai o'i ganeuon yn cael eu gosod i gerddoriaeth o hyd yn Nhiwnisia.
Cyfeiriadau
golygu- Jean Fontaine, Histoire de la littérature tunisienne (Tiwnis, 1994)