Ail isradd

(Ailgyfeiriad o Ail-isradd)

O fewn mathemateg, mae ail isradd unrhyw rif (a) yn rhif (y) fel bod y2 = a. Mewn geiriau eraill, mae nifer y mae ei sgwâr (sef canlyniad lluosi'r rhif gydag ef ei hun, neu y y ) yw a .[1] Er enghraifft, mae 4 a -4 yn ail isradd o 16 oherwydd 4 2 = (-4) 2 = 16.

Ail isradd
Enghraifft o'r canlynolmultivalued function on the complex plane, multivalued function, ffwythiant, ffwythiant, problem cyfrifiannu Edit this on Wikidata
Mathnth root Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebsquare function Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y mynegiad mathemategol "Prif ail isradd o x"
Enghraifft, 25 = 5, oherwydd 25 = 5⋅5, neu 52 (5 wedi'i sgwario).

Mae gan bob rhif real sydd ddim yn negydd a eilrif unigryw, a elwir yn 'y prif ail isradd' ', a ddynodir gan a, lle mae √ yn cael ei alw y 'symbol sylfaenol' (radical sign neu radix). Er enghraifft, y prif ail isradd o 9 yw 3, a ddynodir gan 9 = 3, oherwydd 3 2 = 3 • 3 = 9 ac nid yw 3 yn negydd. Gelwir y term (neu rif) y mae ei ail isradd yn cael ei ystyried yn radicand . Y radicand yw'r nifer neu'r mynegiant o dan yr arwydd radical, yn yr enghraifft hon (9).

Mae gan bob rhif positif ddau ail isradd: √a, sy'n bositif, a -√a, sy'n negydd. Gyda'i gilydd, mae'r ddau ail isradd hyn wedi'u dynodi fel ± √a. Er mai dim ond un o'i ddwy ail isradd yw'r prif ail isradd, caiff y dynodiad "ail isradd" ei ddefnyddio'n aml i gyfeirio at y prif ail isradd. Ar gyfer y posydd a, gellir ysgrifennu'r prif ail isradd hefyd mewn nodiant fel a.[2]

Gellir trafod ail isradd rhifau negyddol o fewn fframwaith rhifau cymhlyg. Yn fwy cyffredinol, gellir ystyried ail isradd mewn unrhyw gyd-destun y diffinnir syniad o "sgwario" (lluosi rhif gydag ef ei hun) rhai gwrthrychau mathemategol, gan gynnwys algebrasau matrics, endomorffedd cylch ac ati.

Enghraifft syml

Er enghraifft, 2 yw ail isradd 4, gan fod 2 wedi'i luosi gydag ef ei hunan yn gwneud 4; neu fe ellir dweud fod 2 wedi'i sgwario (22), yn gwneud 4:


Rhoddir rhif o dan y symbol i gyfeirio at ei ail isradd mewn fformiwlâu mathemategol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gel'fand, t. 120
  2. Zill, Dennis G.; Shanahan, Patrick (2008). A First Course in Complex Analysis With Applications (arg. 2nd). Jones & Bartlett Learning. t. 78. ISBN 0-7637-5772-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-01. Unknown parameter |deadurl= ignored (help) Extract of page 78 Archifwyd 2016-09-01 yn y Peiriant Wayback