Al Hoceima
(Ailgyfeiriad o Al-Hoceima)
Dinas a phorthladd ym Moroco yw Al Hoceima, i'r gogledd o fynyddoedd y Rif ar lan y Môr Canoldir. Amcangyfrir fod gan y ddinas ei hun tua 102,000 o bobl yn byw ynddi tra bod tua 395,644 yn yr ardal ddinesig (cyfrifiad 2004). Mae'n brifddinas rhanbarth Taza-Al Hoceima-Taounate.
Math | urban commune of Morocco, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 50,225 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Almuñécar |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Al Hoceïma |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 37 metr |
Cyfesurynnau | 35.2472°N 3.9322°W |
Mae Al Hoceima ar diriogaeth llwyth y Bucoya, un o lwythau'r Rif, Berberiaid sy'n siarad Amazight.
Dinas gymharol ddiweddar yw Al Hoceima. Cafodd ei sefydlu gan y Sbaenwyr yn 1925 ar ôl iddynt gipio'r rhan yma o'r Rif. Dychwelodd i reolaeth Moroco wedi i'r wlad ennill ei hannibyniaeth. Y prif ddiwydiannau heddiw yw pysgota a thwristiaeth.
Gefeilldref
golyguDolenni allanol
golygu- (Amazight) Lluniau o Al-Hoceima a'r cylch Archifwyd 2012-02-16 yn y Peiriant Wayback