Albendasol

cyfansoddyn cemegol

Mae albendasol, a elwir hefyd yn albendasolm, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer trin amrywiaeth o lyngyr parasitig[1].

Albendasol
Delwedd:Albendazole Structural Formulae V.1.svg, Albendazole.svg
Math o gyfryngaumath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathheterocyclic compound Edit this on Wikidata
Màs265.088498 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₂h₁₅n₃o₂s edit this on wikidata
Enw WHOAlbendazole edit this on wikidata
Clefydau i'w trinEchinococcosis, opisthorchiasis, hymenolepiasis, clonorchiasis, necatoriasis, systisercosis, trichuriasis, giardiasis, ancylostomiasis, clefyd heintus llyngyr parasitig, enterobiasis, filarial elephantiasis edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Rhan oalbendazole monooxygenase activity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnitrogen, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd

golygu

Mae albendasol yn ddefnyddiol i ladd llyngyr giardia, chwip lyngyr, llyngyr ffilaria, llyngyr rhuban porc, llyngyr rhuban cŵn,[2], llyngyr tâp, llyngyr pin, ac eraill. Mae'n cael ei weini trwy'r genau.

Sgil effeithiau

golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfog, poenau'r abdomen, a chur pen. Mae sgil effeithiau difrifol bosibl yn cynnwys ataliad mêr yr esgyrn, sydd fel arfer yn gwella wrth atal y feddyginiaeth. Mae llid yr afu yn gallu ymddangos ymysg y sawl sydd â phroblemau afu blaenorol. Gall achosi niwed os bydd merched beichiog yn ei gymryd[3].

Defnydd milfeddygol

golygu

Yn ogystal â chael ei ddefnyddio fel meddyginiaeth i bobl fe'i defnyddir hefyd i drin llyngyr mewn gwartheg, defaid, cathod a chŵn.

Datblygwyd albendasol ym 1975 gan Robert J. Gyurik a Vassilios J. Theodorides ar gyfer cwmni SmithKline. Fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol fel cyffur i drin llyngyr mewn defaid gan gael ei ehangu i drin pobl ym 1982. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Enwau brand

golygu

Mae enwau brand yn cynnwys:

  • Albenza
  • Alworm
  • Andazol
  • Eskazole
  • Noworm
  • Zentel
  • Alben-G
  • ABZ
  • Cidazole
  • Wormnil

Cyfeiriadau

golygu
  1. Web MD Albendazole Tablet adalwyd 8 Mawrth 2018
  2. Everyday Health - albendazole adalwyd 8 Mawrth 2018
  3. Drugs.com - albendazole adalwyd 8 Mawrth 2018


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!