Llenor ac ysgrifwr o Diwnisia yw Albert Memmi (Arabeg: ألبرت ميمي‎; 15 Rhagfyr 192022 Mai 2020).

Albert Memmi
Ganwyd15 Rhagfyr 1920 Edit this on Wikidata
Tiwnis Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mai 2020 Edit this on Wikidata
4ydd arrondissement Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, French protectorate of Tunisia, Tiwnisia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Mudiadprogressivism, Ôl-drefedigaethedd Edit this on Wikidata
PriodGermaine Memmi Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Fénéon, Grand prix de la francophonie, Prix de l'Union rationaliste Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Nhiwnisia, trefedigaeth Ffrengig ar y pryd, i deulu Arabeg ei iaith. Mae'n fab i François Memmi, crefftwr o dras Iddewig-Eidalaidd, a Marguerite Sarfati, Iddewes Seffardi. Dilynodd addysg Ffrengig, yn gyntaf yn lycée Carnot yn Nhiwnis ac ym Mhrifysgol Algiers, lle astudiodd athroniaeth. Aeth wedyn i'r Sorbonne, ym Mharis. Darganfu Memmi ei hyn ar groesffordd ddiwylliannol, ac adlewyrchir hyn yn ei waith ysgrifennedig.

Er iddo gefnogi'r symudiad cenedlaetholgar a'u hamcan o annibyniaeth i Diwnisia, teimlai'n aniddig yn y gyfundrefn Fwslemaidd newydd.

Cyhoeddodd ei nofel led-hunangofiannol, La Statue de Sel ("Cerflun halen"), yn 1953, gyda rhagair gan Albert Camus. Traethawd damcaniaethol dan yr enw Portrait du colonisé, précédé du portrait du colonisateur publié yw ei lyfr mwyaf adnabyddus. Fe'i gyhoeddwyd yn 1957 gyda rhagair gan Jean-Paul Sartre. Amlinella'r traethawd y modd y mae'r berthynas rhwng trefedigaethwyr a brodorion cynhenid y drefedigaeth yn cyflyru ymddygiad y naill a'r llall.


Eginyn erthygl sydd uchod am athronydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner TiwnisiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.