Alger
Alger neu Algiers (Arabeg al-Jazā'ir) yw prifddinas Algeria. Wedi'i lleoli yng nghanol arfordir Algeria ar y Môr Canoldir, Alger yw un o'r prif borthladdoedd ar y môr hwnnw a dinas fwyaf y wlad. Mae'r casbah (yr hen ddinas) ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Affrica.
![]() | |
![]() | |
Math |
prifddinas, anheddiad dynol, dinas, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, esgobaeth ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
3,415,811 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Central Algeria ![]() |
Sir |
Talaith Algiers ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
363,000,000 m² ![]() |
Uwch y môr |
0 metr ![]() |
Gerllaw |
Y Môr Canoldir ![]() |
Cyfesurynnau |
36.7764°N 3.0586°E ![]() |
Cod post |
16000–16132 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Maer Alger ![]() |
![]() | |
HanesGolygu
Cafodd Alger ei sefydlu gan y Ffeniciaid dros 2600 mlynedd yn ôl ond erbyn i'r Arabiaid gyrraedd yn y 7g roedd yn bentref bach dibwys. Cafodd ei datblygu gan yr Arabiaid o'r 10g ymlaen a thyfodd yn gyflym i fod yn ddinas fawr a llewyrchus. Yn y 16g fe'i meddianwyd gan y Tyrciaid Otomanaidd ac fe'i defnyddid fel gwersyll ar gyfer Môr-ladron Barbari, e.e. Khair-ed-din Barbarossa, a gipiodd y ddinas yn 1539.
Cipiodd Ffrainc y ddinas oddi ar Dwrci yn 1830 a'i gwneud yn brifddinas ei thalaith newydd, Algeria. Sefydlwyd Prifysgol Alger yn 1879. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd Alger oedd pencadlys lluoedd y Cynghreiriaid yng Ngogledd Affrica ac, am gyfnod, yn bencadlys llywodraeth alltud Ffrainc. Bu'r ddinas yn dyst i ymladd ar sawl achlysur yn ystod y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad ar Ffrainc (1954-1962).
EconomiGolygu
Mae ei hallforion yn cynnwys gwin, ffrwythau sitrus a haearn.