Albrecht Altdorfer
Paentiwr, gwneuthurwr printiau, a drafftsmon Almaenig oedd Albrecht Altdorfer (tua 1480 – 12 Chwefror 1538) sydd yn nodedig am arloesi Ysgol y Donaw (Almaeneg: Donauschule), arddull o baentio tirluniau a flodeuai yn nyffrynnoedd blaenau Afon Donaw yn nechrau'r 16g.
Albrecht Altdorfer | |
---|---|
Engrafiad o Albrecht Altdorfer gan Philipp Kilian o'r 17g. | |
Ganwyd | 1480 Regensburg, Altdorf bei Nürnberg |
Bu farw | 12 Chwefror 1538 Regensburg |
Galwedigaeth | arlunydd, pensaer, goleuwr, gwneuthurwr printiau, engrafwr plât copr, pensaer |
Adnabyddus am | The Battle of Alexander at Issus, Susanna and the Elders, Nativity of the Virgin, Legend of Saint Florian |
Mudiad | y Dadeni Almaenig |
llofnod | |
Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Regensburg, Dugiaeth Bafaria, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Daeth yn ddinesydd ym 1505 a fe'i penodwyd yn bensaer dinesig ym 1526, a gwasanaethai hefyd yn aelod o gyngor Regensburg.[1][2] Enillodd ffafr Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a Wilhelm IV, Dug Bafaria.[1]
Altdorfer mae'n debyg oedd yr arlunydd Ewropeaidd cyntaf ers yr Henfyd i baentio tirluniau nad oedd yn cynnwys pobl nac yn traddodi stori.[2] Gwelir ei fod yn canolbwyntio'n fwyfwy ar natur yn ei baentiadau cynnar megis Brwydr San Siôr â'r Ddraig (1510) sydd yn cynnwys coedwig hynafol bron yn cuddio ffigur y marchog ar ei geffyl. Yn y 1520au paentiodd ei "dirluniau bur" cyntaf o gyrion gwledig Regensburg, heb ffigurau dynol o gwbl. Ei hoff destun oedd coedwigoedd deiliog a dyrys y gwledydd Almaeneg, ac arloesai hefyd yr arfer o arlunio golau'r machlud haul a'r cyfnos.
Cyflawnodd hefyd nifer o baentiadau crefyddol, gan gynnwys ei allorluniau yn Eglwys Sant Florian, Linz, sydd y cynnwys portreadau o Ddioddefaint yr Iesu a merthyrdod Sant Sebastian. Un o'i gampweithiau yw Brwydr Alecsander (Brwydr Issus) (1529) sydd yn dychmygu brwydr drawiadol sydd yn cyfateb i'r olygfa fawreddog o'i chwmpas. Yn ogystal â'i baentiadau, cynhyrchodd Altdorfer ddarluniau, engrafiadau, torluniau pren, ac ysgythriadau.
-
Brwydr San Siôr â'r Ddraig (1510)
-
Tirlun y Donaw gyda Chastell Wörth (1528)
-
Brwydr Alecsander (Brwydr Issus) (1529)
-
Y Cardotyn yn eistedd ar Odre Balchder (1531)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 12–13.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Albrecht Altdorfer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2021.