Engrafio

(Ailgyfeiriad o Engrafiad)

Proses brintio drwy endorri'r ddelwedd gyda phwyntil torri (o'r enw biwrin) ar wyneb metel, copr gan amlaf, yw engrafio neu engrafu. Gelwir y broses weithiau'n llin-engrafio, gan ei bod ond yn ailgynhyrchu marciau llinellog, er y gellir creu awgrym o arlliw a graddliw drwy dechnegau megis tynnu llinellau cyfochrog, croeslinellau, a smotiau mân.[1]

Engrafiad gan Albert Dürer o Sant Sierôm yn ei Fyfyrgell (1514).

Gelwir proses debyg, sy'n defnyddio asid i endorri'r ddelwedd ar wyneb metel, yn ysgythru.

Dyfeisiwyd llin-engrafio yn y Rheindir ac yng ngogledd yr Eidal tua'r un pryd, yng nghanol y 15g. Gofaint aur oedd yr engrafwyr Almaenig cyntaf, a llofnodasant eu gwaith gyda blaenlythrennau eu henwau neu ffugenwau. Yr engrafwr cyntaf o'r Almaen yr ydym yn gwybod amdano'i fywyd yw'r gof aur a phaentiwr Martin Schongauer. Yn yr Eidal, mi oedd yr engrafwyr yn ofaint aur a hefyd yn weithwyr metel nielo. Un o'r cyntaf oedd Maso Finiguerra o Fflorens. Yn fuan cofleidiwyd dulliau engrafio gan baentwyr Eidalaidd, megis Andrea Mantegna ac Antonio Pollaiuolo. Erbyn yr 16g, ailgynhyrchu paentiadau oedd prif ddiben yr engrafwyr yn yr Eidal, ac yn wir mae meistr enwocaf y grefft o'r wlad honno, Marcantonio Raimondi yn adnabyddus yn bennaf am ei gopïau o baentiadau Raffael.

Y tu hwnt i'r Eidal, ymledodd dulliau engrafio ar draws y gwledydd Almaeneg, y Gwledydd Isel, a mannau eraill yng Ngogledd Ewrop. Ymhlith meistri'r grefft yn y 16g oedd Albrecht Dürer ac Hendrik Goltzius. Yn yr 17g a'r 18g datblygwyd technegau dotweithio ac engrafio creon, hynny yw britho'r wyneb metel gyda rhiciau mân. Dyfeisiwyd mesotintio yn yr 17g gan Ludwig von Siegen. Adferwyd yr hen lin-engrafio yn yr 20g gan yr arlunydd Ffrengig Jacques Villon a'r Saeson Eric Gill a Stanley William Hayter.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Engraving. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Chwefror 2019.