Alcatraz
Carchardy enwog ar ynys ym Mae San Francisco, gyferbyn â dinas San Francisco ei hun, yn Califfornia, yr Unol Daleithiau (UDA), yw Alcatraz. Sefydlwyd carchar diogelwch uchel ar yr ynys yn 1932 a ddaeth yn ddrwgenwog am lymder ei disgyblaeth ac yn ddihareb am rywle amhosibl i ddianc ohono. Serch hynny llwyddodd rhai o'r carcharorion i dorri allan yn 1962 a chafwyd ffilm am y digwyddiad yn 1979. Caewyd fel carchar yn 1969.
![]() | |
Math | ynys, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−08:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Golden Gate National Recreation Area ![]() |
Lleoliad | Bae San Francisco ![]() |
Sir | San Francisco ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.085 km² ![]() |
Uwch y môr | 41 metr ![]() |
Gerllaw | Bae San Francisco ![]() |
Cyfesurynnau | 37.8266°N 122.422839°W ![]() |
Hyd | 0.55 cilometr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA ![]() |
Manylion | |

Fffilm a ffuglen golygu
Serenodd Burt Lancaster yn y ffilm boblogaidd The Birdman of Alcatraz (1962) am garcharor sy'n treulio ei flynyddoedd yn Alcatraz yn astudio ornitholeg ac sy'n dod yn arbenigwr byd-enwog ar adar.
Yn 1979, saethwyd y ffilm Escape From Alcatraz, yn serennu Clint Eastwood, sy'n seiliedig ar y digwyddiad yn 1962.