Alcohol (meddyginiaeth)
Defnyddir alcoholau mewn gwahanol ffyrdd yn y maes meddygol, fel antiseptig, diheintydd, a gwrthgyffur. Gosodir ar y croen er mwyn ei ddiheintio cyn ei frechu a nodwydd neu cyn llawdriniaeth. Defnyddir i ddiheintio croen y claf ynghyd â dwylo'r darparwyr gofal iechyd. Mae modd glanhau ardaloedd eraill gydag alcohol.[1] Fe'i defnyddir mewn cegolchion.[2] Wrth ei gymryd drwy'r geg neu ei chwistrellu i mewn i wythïen gall drin gwenwyndra methanol neu ethylen glycol pan na fydd fomepizole ar gael. Ac eithrio'r enghreifftiau uchod, ni cheir defnydd meddygol canmoladwy arall i alcohol, o ystyried mai 10:1 yn unig yw mynegai therapiwtig ethanol.
Enghraifft o'r canlynol | cyffur hanfodol |
---|---|
Math | antiseptic, disinfectant, antidote |
Deunydd | ethanol |
Gall alcohol arwain at ymdeimlad o gosi ar y croen. Dylid cymryd gofal gyda electrocautery gan fod ethanol yn llosgadwy.[3] Defnyddir gwahanol fathau o alcohol gan gynnwys ethanol, ethanol annaturiol, 1-propanol, ac alcohol isopropyl.[4] Gweithia'n effeithiol yn erbyn ystod o ficro-organeddau, serch hynny nid yw'n llonyddu sborau. Rhaid defnyddio crynoadau o 60 i 90% er mwyn cael y canlyniadau gorau.
Defnyddiwyd alcohol fel antiseptig mor gynnar â'r flwyddyn 1363 a cheir tystiolaeth i gefnogi y gwnaed defnydd agored ohono o ddiwedd y 1800au ymlaen.[5] Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[6] Yn y byd datblygol ei gost gyfanwerthol yw oddeutu 1.80 i 9.50 o ddoleri i bob litr o ethanol annaturiol 70%. I'r GIG yn y Deyrnas Unedig mae'n costio oddeutu 3.90 o bunnoedd Prydeinig i bob litr o alcohol annaturiol 99%. Mae fformwleiddiadau masnachol yn cynnwys alcohol a chynhwysion eraill megis chlorhexidine ar gyfer defnydd golchi dwylo hefyd ar gael.[4][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. t. 321. ISBN 9789241547659. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 January 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Hardy Limeback (11 April 2012). Comprehensive Preventive Dentistry. John Wiley & Sons. tt. 138–. ISBN 978-1-118-28020-1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 September 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ British national formulary : BNF 69 (arg. 69). British Medical Association. 2015. tt. 42, 838. ISBN 9780857111562.
- ↑ 4.0 4.1 McDonnell, G; Russell, AD (January 1999). "Antiseptics and disinfectants: activity, action, and resistance.". Clinical Microbiology Reviews 12 (1): 147–79. PMID 9880479. https://archive.org/details/sim_clinical-microbiology-reviews_1999-01_12_1/page/147.
- ↑ Block, Seymour Stanton (2001). Disinfection, Sterilization, and Preservation (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. t. 14. ISBN 9780683307405. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Bolon, MK (September 2016). "Hand Hygiene: An Update.". Infectious disease clinics of North America 30 (3): 591–607. PMID 27515139.