Alex Jones
Cyflwynydd teledu o Gymru ydy Charlotte Alexandra Jones (ganwyd 18 Mawrth 1977). Ers 2010 mae'n cyd-gyflwyno rhaglen gylchgrawn The One Show ar BBC One gyda Matt Baker.
Alex Jones | |
---|---|
Ganwyd | Charlotte Alexandra Jones 18 Mawrth 1977 Rhydaman |
Man preswyl | Chiswick |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Ei blynyddoedd cynnar
golyguFe'i ganed yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Saesneg oedd iaith yr aelwyd ond mynychodd ysgol cyfrwng Cymraeg sef Ysgol Gymraeg Rhydaman a buan iawn y daeth yn rhugl yn y Gymraeg. Yn blentyn cafodd hyfforddiant fel dawnswraig ballet.[1][2] Astudiodd theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Oherwydd ei bod ar y pryd yn cystadlu yn sioe deledu Davina McCall ar Sky One Prickly Heat! safodd ei arholiadau gradd terfynol yn Magaluf Sbaen.
Gyrfa
golyguAr ôl graddio, cafodd waith fel ymchwilydd i gwmni teledu ond ar ôl iddi gael ei diswyddo ddwywaith, cafodd gyfle i fod o flaen camera gan gwmni teledu Avanti.[3] Davina McCall ar Sky One Prickly Heat! Cafodd ei swydd gyflwyno gyntaf gan BBC Choice, cyn iddi ymuno ag S4C fel cyflwynydd ar y rhaglen Cân i Gymru. Parhaodd Alex i gyflwyno rhaglenni cyfrwng Cymraeg i blant, gan gynnwys Salon, a Hip neu Sgip ac ambell i ymddangosiad ar deledu Saesneg, gan cynnwys RI:SE ar Channel 4. Ar 26 Gorffennaf 2010, cyhoeddwyd y byddai Alex yn cyflwyno sioe BBC One The One Show, gan gymryd yr awenau yn lle Christine Bleakley ac yn cyd-gyflwyno gyda Jason Manford.[1][4][5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 James Robinson (25 Gorffennaf 2010). "Alex Jones to replace Christine Bleakley on The One Show". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-28. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Talking to Alex Jones –Cymru – Tocyn – Dysgu ar S4C". S4C. 24 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-21. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2010.
- ↑ Rachel Mainwaring (12 February 2010). "Alex Jones: My decade on Welsh TV". Western Mail. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-28. Cyrchwyd 12 Hydref 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Alex Jones gets top spot on The One Show sofa". Western Mail. 25 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-27. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Welsh TV host Alex Jones named new One Show presenter". BBC News. 25 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-26. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Alex Jones to join The One Show". Digital Spy. 25 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-26. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)