Cân i Gymru
Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cyfansoddwr buddugol yn ennill swm o arian a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Cân i Gymru | |
---|---|
Gwlad/gwladwriaeth | ![]() |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 120 munud (yn cynnwys hysbysebion) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Cymru (1969) S4C (1983–) |
Rhediad cyntaf yn | 1969 |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol |
HanesGolygu
Cyflwynwyd Cân i Gymru o dan yr enw 'Cân Disg a Dawn' am y tro cyntaf ym 1969. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn gobeithio byddai'r gân fuddugol yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, er y penderfynodd y BBC yn Llundain yn y diwedd mai dim ond un cân o wledydd Prydain fyddai'n cystadlu.[1]
Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis Cân i Gymru gyda saith cân ymhob un, yn cael eu perfformio gan gantorion adnabyddus y cyfnod. Roedd y cyhoedd yn pleidleisio drwy ddanfon llythyrau i mewn ac roedd y gân gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.[2] Darlledwyd y rhaglen olaf ar 5 Mehefin 1969 drwy wledydd Prydain dan y teitl Song for Wales ac fe'i gyflwynwyd gan Ronnie Williams yn Gymraeg a Saesneg. Roedd panel wedyn yn dewis y gân fuddugol ar y noson. Roedd y rhaglen hefyd yn rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer arwisgiad Tywysog Siarl a fyddai'n digwydd ar 1 Gorffennaf 1969.[3]
Yn dilyn sefydlu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddechrau'r 70au dechreuodd Pwyllgor Cymru yr Ŵyl y gystadleuaeth 'Cân i Gymru' unwaith eto er mwyn dewis cân i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Celtavision. Doedd yna ddim cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1973. I ddechrau doedd gan y cyfryngau yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb yn y gystadleuaeth. Doedd Cân i Gymru ddim yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu, a phanel oedd yn pleidleisio i ddewis enillwyr. Er enghraifft cynhaliwyd cystadleuaeth 1980 ym Mar Cefn yr Angel yn Aberystwyth ac fe'i darlledwyd ar Radio Cymru.
Erbyn 1982 roedd y gystadleuaeth nôl ar y teledu ond panel oedd yn dal i ddewis yr enillydd.
Erbyn hyn caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Yn 2019 roedd y wobr yn £5,000 gyda £2,000 am yr ail safle a £1,000 am y trydydd safle. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Ŵyl Ban Geltaidd.
Yn wahanol i'r mwyafrif o gystadlaethau canu yn Ewrop, pwysleisir cyfansoddwr y gân yn hytrach na'r perfformiwr.
Crynodeb o'r rhaglenniGolygu
Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).
Y goreuon, yn ôl gwylwyr S4C, 2016Golygu
Ym Mawrth 2016 cynhaliodd S4C bleidlais o'r holl enillwyr ers 1982, a'r 7 uchaf oedd:
- 7fed: Cerrig Oer yr Afon - Iwcs a Doyle
- 6ed: Dagrau Tawel - Rhian Mair Lewis
- 5ed: Galw Amdanat Ti - Mirain a Barry Evans
- 4ydd: Harbwr Diogel - Arfon Wyn
- 3ydd: Y Cwm - Geraint Griffiths yn canu; Chiswell y cyfansoddwr
- 2il: Gofidiau - Elfed Morgan Morris
- 1af: Torri'n Rhydd - Steffan Rhys Williams
DychanGolygu
Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn destun dychan ar hyd y blynyddoedd. Ar gyfer Cân i Gymru 2019 cafwyd sgetch ddychan gan DJ Bry ar sianel ar-lein Hansh S4C, "Tips Bry ar Shwt i Ennill Cân i Gymru".[7]
TwitterGolygu
Mae sylwadau o gefnogaeth, anghytuno a dychan ar y sioe ar Twitter yn boblogaidd iawn adeg darllediad y rhaglen yn fyw ar S4C. Mae'r hashnod #CiG2019 (neu'r flwyddyn gyfredol) yn 'trendio' ar Twitter ar draws Brydain adeg cyfnod y darllediad byw.[8]
Dolenni allanolGolygu
- Cân i Gymru ar wefan S4C
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Can i Gymru Gwefan UKGameshows. Adalwyd ar 05-12-2010
- ↑ Lle oeddwn i: Margaret Williams, Cân i Gymru 1969 , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2019.
- ↑ (Saesneg) Genome - SONG FOR WALES. BBC.
- ↑ Archif Cân i Gymru ar S4C
- ↑ (Saesneg) Cân i Gymru: Y Casgliad Cyflawn 1969–2005. MusicBrainz.
- ↑ S4C yn agor Pôl Cân i Gymru fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. S4C (2 Chwefror 2016). Adalwyd ar 6 Mawrth 2016.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=SwmyLol-zl8
- ↑ https://twitter.com/canigymru/status/1101589319956025345/