Alexa Davalos
Mae Alexa Davalos (ganed 28 Mai 1982) yn actores Americanaidd. Daeth yn amlwg am ei rhan fel Gwen Raiden ym mhedwaredd gyfres y rhaglen deledu Angel (2002-03). Mae wedi mynd ymlaen i ymddangos mewn nifer o ffilmiau Hollywood gan gynnwys The Chronicles of Riddick (2004), Feast of Love (2007), The Mist (2007), Defiance (2008) a Clash of the Titans (2010). Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres deledu Reunion (2005-06) ac yn Mob City Frank Darabont (2013). Ar hyn o bryd, mae'n serennu fel Juliana Crain, y prif gymeriad yng nghyfres Amazon Studios The Man in the High Castle (2015).
Alexa Davalos | |
---|---|
Ganwyd | Alexa Kate Dunas 28 Mai 1982 16ain bwrdeistref Paris |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, model, actor ffilm |
Tad | Jeff Dunas |
Mam | Elyssa Davalos |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Davalos, yn unig blentyn, yn Alexa Davalos Dunas yn Ffrainc, i rieni Americanaidd, yr actores Elyssa Davalos a'r ffotograffydd Jeff Dunas. Ei thad-cu ar ochr ei mam yw'r actor Richard Davalos. Treuliodd Davalos y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn Ffrainc a'r Eidal, cyn iddi ymgartrefu yn Efrog Newydd.[1] "Rwy'n debygol o regi yn amlach yn Ffrangeg na'r Saesneg," meddai. Mae teulu ei thad yn Iddewig (bu hynafiaid ar ochr ei thad yn byw yn Vilnius yn Lithwania).[2] Fe'i magwyd "heb lawer o grefydd", er mynychodd ysgol Hebraeg am gyfnod.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Interview: Alexa Davalos "The Chronicles of Riddick" 2". Madeinatlantis.com. Cyrchwyd 2012-08-15.
- ↑ Schweiger, Daniel (January 2009). "Alexa Davalos Interview". Buzzine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-12. Cyrchwyd 2009-02-08.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-21. Cyrchwyd 2015-12-28.