Defiance (ffilm 2008)

Mae Defiance (2008) yn ffilm ryfel Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Edward Zwick. Lleolir y ffilm yn ardaloedd dwyreiniol Gwlad Pwyl (Gorllewin Belarws bellach) pan oedd yr ardal o dan reolaeth y Natsiaid. Addasiad yw'r ffilm o Nechama Tec's Defiance: The Bielski Partisans, sy'n seiliedig ar stori wir yr herwfilwyr Bielski. Yn y llyfr, daeth Iddewon Pwylaidd at ei gilydd er mwyn amddiffyn ei hunain ac i wrthwynebu'r Almaen yn meddiannu eu tir.

Defiance
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi31 Rhagfyr 2008, 23 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Genreffilm ryfel, ffilm ddrama, ffilm yn seiliedig ar lyfr Edit this on Wikidata
CymeriadauTuvia Bielski, Alexander Zeisal Bielski, Asael Bielski, Aron Bielski, Adolf Hitler Edit this on Wikidata
Prif bwncyr Ail Ryfel Byd, yr Holocost Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Hyd137 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrEdward Zwick Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrEdward Zwick Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuParamount Vantage, Edward Zwick Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJames Newton Howard Edit this on Wikidata
DosbarthyddParamount Vantage, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddEduardo Serra Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.defiancemovie.com/ Edit this on Wikidata

Mae Defiance yn serennu Daniel Craig, Liev Schreiber, Jamie Bell, a George MacKay fel pedwar brawd Iddewig o Wlad Pwyl sy'n dianc rhag y Natsiaid ac sy'n ymladd yn ôl er mwyn ceisio achub bywydau eu cyd-Iddewon. Dechreuwyd ar y broses gynhyrchu ar ddechrau mis Medi 2007.

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ryfel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.