Dyn busnes Cymreig oedd Dr. Alfred Joseph Gooding OBE LLB (Mawrth 193229 Ionawr 2018)[1][2], a adnabyddwyd fel "Alf" Gooding. Cafodd yrfa dros 50 mlynedd yn y diwydiant adeiladu a chyfarpar electronig.[3]

Alfred Gooding
GanwydMawrth 1932 Edit this on Wikidata
Rhisga Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethentrepreneur Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Rhisga, yn fab i lowr. Yn y 1950au cychwynnodd gwmni Modern Building Wales Limited a adeiladodd 7,000 o dai ar draws Cymru.[4] Ei fenter mwyaf enwog oedd Catnic, cwmni a gydnabyddir am ddatblygu y capan dur (lintel) ar gyfer y diwydiant adeiladu.[5] Yn 1982, roedd ei gwmni mewn achos yn Nhy'r Arglwyddi, "Catnic Components Ltd v Hill & Smith Ltd".

Bu Gooding yn gadeirydd CBI Cymru. Yn 2003, cychwynnodd ysgrifennu colofn wythnosol am fusnes yn y Western Mail.[6] Yn 2010 derbyniodd gymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru, Casnewydd.[7]

Yn 2007, trefnodd Gooding gais i brynu'r banc Northern Rock a oedd mewn trafferthion ariannol.[8]

Yn 2015, fe ddinistriwyd ei dŷ yn Rhiwderyn ger Casnewydd gan dân. Roedd Gooding yn byw yno gyda'i wraig Lavinia a fe wnaethon nhw ddianc heb niwed.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Alfred Joseph GOODING. Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 7 Chwefror 2018.
  2. "Alfred Joseph GOODING : Obituary". Western Mail. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018. (Saesneg)
  3.  UK: My best deal - A little wizardry in Wales - PROFILE OF RACE ELECTRONICS' ALF GOODING.. Management Today (1 Mai 1992).
  4. "Alfred Gooding leads line-up of the best in Welsh business". The Free Library. Cyrchwyd 11 Mehefin 2011.
  5. "About Catnic". Catnic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-06. Cyrchwyd 11 Mehefin 2011.
  6. Alf Gooding to pull no punches in new Western Mail column. , Western Mail, 8 Ionawr 2003. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2018.
  7. "Newport's University Awards Fellowships". University of Wales, Newport. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 11 Mehefin 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Welsh tycoon aiming to run Northern Rock". WalesOnline. Cyrchwyd 3 Tachwedd2011. Check date values in: |accessdate= (help)
  9. Alan Selby (1 Mehefin 2014). "Newport house fire: More than 50 firefighters battle blaze at business magnate Alfred Gooding's home". WalesOnline. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.