Prifysgol Cymru, Casnewydd

Prifysgol yng Nghasnewydd, Cymru oedd Prifysgol Cymru, Casnewydd (Saesneg: University of Wales, Newport). Fe unodd y Brifysgol gyda Phrifysgol Morgannwg yn 2013 i greu Prifysgol De Cymru.

Prifysgol Cymru, Casnewydd
Sefydlwyd 1975
Math Cyhoeddus
Canghellor Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
Is-ganghellor Peter Noyes
Myfyrwyr 9,630[1]
Israddedigion 7,525[1]
Ôlraddedigion 1,850[1]
Myfyrwyr eraill 250 addysg bellach[1]
Lleoliad Casnewydd, Baner Cymru Cymru
Campws Campws Allt-yr-yn, Casnewydd
Campws Caerleon
Cyn-enwau Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd / Univertisy of Wales College, Newport (UWCN)
Lliwiau           Piws a glas
Sgarff:
                 
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Alliance of Non-Aligned Universities
Association of Commonwealth Universities
Campaign for Mainstream Universities
Gwefan http://www.newport.ac.uk

Bu'r brifysgol yn rhan o fyd addysg uwch ers dros 80 mlynydd, ac mae ei wreiddiau yn mynd ymhellach yn ôl na hynny; i’r Athrofa Mecaneg cyntaf a agorwyd yn y dref ym 1841. Ffurfiwyd y sefydliad fel Coleg Addysg Uwch Gwent (Gwent College of Higher Education) gan uniad Coleg Addysg Caerleon (Caerleon College of Education; Coleg Hyfforddiant Sir Fynwy / Monmouthshire Training College gynt), Coleg Celf a Dylunio Casnewydd (Newport College of Art and Design) a Coleg Technoleg Gwent (Gwent College of Technology) ym 1975.[2] Daeth y coleg yn gysylltiedig â athrofa Prifysgol Cymru ym 1992, gan chael ei derbyn fel coleg prifysgol ym 1996. Mabwysiadodd yr enw Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd (Univertisy of Wales College, Newport/UWCN) yn fuan wedi hyn, cyn newid i'r enw Prifysgol Cymru, Casnewydd yn 2002, wedi iddi ennill statws lawn prifysgol.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato