Algol
Lluos-seren ddisglair, sy'n cynnwys tair seren, yng nghytser Perseus yw Algol[1] (hefyd Beta Persei neu β Persei). Y tair seren sy'n ffurfio Algol yw β Persei Aa1, β Persei Aa2, a β Persei Ab. Y brif seren yw β Persei Aa1, sy'n boeth. Mae Persei β Aa2 yn fwy, ond yn oerach ac yn wanach. Mae'r ddwy seren hyn yn pasio o flaen ei gilydd yn rheolaidd, gan achosi eclipsau. Felly mae gan Algol fel arfer faintioli o 2.1, ond mae'r ffigur hwn yn disgyn yn rheolaidd i 3.4 bob 2.86 diwrnod yn ystod eclipsau rhannol sy'n para tua 10 awr.
Enghraifft o'r canlynol | seren newidiol Algol, spectroscopic binary, eclipsing binary star, seren ddwbl, near-IR source, UV-emission source |
---|---|
Cytser | Perseus |
Pellter o'r Ddaear | 93 ±2 blwyddyn golau |
Paralacs (π) | 36.27 ±1.4 |
Cyflymder rheiddiol | 3.7 ±3.9 cilometr yr eiliad |
Tymheredd | 12,445 Kelvin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r seren. Am yr iaith raglennu, gweler ALGOL.
Mae Algol yn rhoi ei henw i'w ddosbarth o sêr newidiol, sef "sêr newidiol Algol".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Richard Hinckley Allen, Star-Names and Their Meanings (Efrog Newydd, 1899), t.332