Alhambra
Palas o'r canol oesoedd oedd yn perthyn i frenhinoedd Islamaidd Teyrnas Granada yw'r Alhambra (Arabeg: الحمراء = Al-Ħamrā'; yn llythrennol "y coch"). Saif ar fryn ar ochr dde-ddwyreiniol dinas Granada yn Andalucía, Sbaen.
Math | ensemble pensaernïol, atyniad twristaidd, palas, palas, gardd, group of monuments |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Zona Arqueológica de Granada, Alhambra, Generalife and Albayzín, Granada |
Sir | Granada |
Gwlad | Sbaen |
Cyfesurynnau | 37.17634°N 3.58821°W |
Cod post | 18009 |
Arddull pensaernïol | Art of Moroccan Andalusian |
Statws treftadaeth | Historic Garden (Spain), Zona Patrimonial, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Bien de Interés Cultural |
Manylion | |
Daw'r enw o'r lliw coch ar y tir sydd o gwmpas yr Alhambra, sydd hefyd erbyn heddiw wedi lliwio'r muriau eu hunain yn goch, er eu bod wedi eu gwyngalchu yn wreiddiol. Yn ystod yr ymladd rhwng dilynwyr Islam a'r Cristionogion oedd yn ceisio adfeddiannu al-Andalus yn nechrau'r 13g, enciliodd Ibn Nasr, sylfaenydd Brenhinllin y Nasrid, i Granada, a dechreuodd adeiladu'r Alhambra presennol.
Datblygwyd y palas dros y canrifoedd nesaf gan frenhinoedd megis Yusuf I, Muhammad V, Ismail I ac eraill. Yn 1492, gorfodwyd y brenin olaf, Muhammad XII, mwy adnabyddus yn y gorllewin fel "Boabdil", i ildio Granada a'r Alhambra i Fernando II o Aragon ac Isabella o Castilla. Yn ddiweddarach adeiladodd y brenin Carlos V (1516 - 1556) balas yn arddull y Dadeni ar y safle.
Rhestrwyd yr Alhambra, gyda'r Generalife a'r Albayzín yn Granada, fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
-
Yr Alhambra o'r "Mirador de San Nicolás" ar yr Albaycin, Granada.
-
Yr Alhambra o'r Generalife (gogledd-ddwyrain)
-
Cynllun Palacio Arabe 1889
-
Alhambra (2010)