Dinas yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, Sbaen, yw Granada, sy'n brifddinas talaith Granada. Saif wrth droed mynyddoedd y Sierra Nevada, 738 medr uwch lefel y môr. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas yn 236,982.

Granada
Mathbwrdeistref Sbaen Edit this on Wikidata
PrifddinasGranada city Edit this on Wikidata
Poblogaeth230,595 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarifrán Carazo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantCaecilius of Elvira, Q60968240 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGranada notarial district, Vega de Granada Edit this on Wikidata
SirTalaith Granada Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd88.02 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr738 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawDarro Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArmilla, Pulianas, Maracena, Atarfe, Santa Fe, Vegas del Genil, Churriana de la Vega, Ogíjares, La Zubia, Cájar, Huétor Vega, Cenes de la Vega, Pinos Genil, Dúdar, Beas de Granada, Huétor de Santillán, Víznar, Jun Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.1781°N 3.6008°W Edit this on Wikidata
Cod post18001–18015, 18182, 18190 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Granada Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarifrán Carazo Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ar ddinas Granada
Yr Alhambra, Granada

Adeilad enwocaf Granada yw'r Alhambra, caer a phalas o'r cyfnod Islamaidd. Oherwydd yr Alhambra a nifer o atyniadau eraill, er enghraifft ar fryn yr Albaicín, mae Granada yn gyrchfan bwysig i dwristiaid. Mae Prifysgol Granada hefyd yn adnabyddus.

Roedd sefydliad yma yn y cyfnod Celtiberaidd, yna bu dinas Roegaidd yma dan yr enw Elibyrge neu Elybirge. Dan y Rhufeiniaid, gelwid hi yn "Illiberis". Cipiwyd y ddinas gan fyddin Islamaidd dan Tariq ibn-Ziyad yn 711. Yn 1013 daeth Granada yn deyrnas annibynnol dan swltan, ac yn 1228 daeth brenhinllin y Nasrid i rym yma. Hwy a adeiladodd yr Alhambra ac adeiladau eraill.

Ar 2 Ionawr 1492, ildiodd y teyrn mwslimaidd olaf, Muhammad XII, a elwid yn Boabdil gan y Cristionogion, y ddinas i fyddin Ferdinand ac Isabella, Los Reyes Católicos ("Y Teyrnoedd Catholig").

Mae'r Alhambra, y Generalife a'r Albaicín yn Safle Treftadaeth y Byd.

Pobl enwog o Granada golygu