Alistair James
Mae Alistair James yn gyflwynydd ar Capital Cymru yng Ngogledd Cymru.[1] Mae e'n gerddor ac yn ganwr.
Alistair James | |
---|---|
Ganwyd | 1984 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Fe'i ganwyd ym Mangor a mynychodd Ysgol Gynradd Pant Y Rhedyn, Llanfairfechan, cyn symud i Ysgol Uwchradd Aberconwy. Amlygodd doniau cerddorol Alistair yn ifanc, yn dysgu canu’r gitâr a’r piano. Fel cerddor mae’n edmygu James Taylor, Mark Knopfler, Elton John a llawer mwy.
Ar ôl gadael, treuliodd gyfnod byr fel diddanwr ar yr Ynys Roegaidd, Kos. Dychwelodd i Gymru i astudio Cyfryngau Creadigol a Rhyngweithiol ym Mhrifysgol Morgannwg.
Rhyddhaodd ei albwm gyntaf pan oedd yn 22 oed ar label Recordiau Sain, ac ers hynny mae wedi rhyddhau 5 albwm arall sef yn ogystal â 3 EP ei hun, sef ‘Recordiau’r Llyn’. Mae’r label Recordiau’r Llyn wedi lansio gyrfaoedd cantorion ifanc Cymraeg yn megis Sophie Jayne a Beth Frazer.
Yn 2007 fe gydweithiodd gyda DJSG ar sawl cân ar gyfer gasgliad o'r enw Clwb Cymru ar label recordio Sain. Ymysg y traciau i gael eu rhyddhau oedd fersiwn o'r gân draddodiadol Sosban Fach sydd bellach wedi cael ei wylio dros filiwn o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol.
Dechreuodd ei yrfa cyflwyno ar orsaf radio cymunedol Tudno FM yn Llandudno. Aeth wedyn i orsaf Champion 103 cyn symud i Heart i wneud y sioe 'Drive Time'. Mae Alistair nawr yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Capital Cymru. Yn stod ei yrfa mae e wedi cyfweld â nifer o enwau adnabyddus, gan gynnwys Michael Bublé a Gary Barlow.
Yn Hydref 2010 canodd yr anthem genedlaethol cyn gêm Cwpan Ewropeaidd Rygbi'r Gynghrair yn erbyn yr Iwerddon.
Yn ogystal â chyflwyno ar y radio, mae Alistair wedi ymddangos ar sawl rhaglen S4C ac wedi cyflwyno mewn rhai o ddigwyddiadau mwyaf y genedl yn cynnwys seremoni gwobrwyo BAFTA Cymru, Eisteddfodau, y chwe gwlad ac ymgyrch Cymru yn y Euros a chwpan y byd 2022.
Mae Alistair with ei fodd yn perfformio. Gellir ei weld yn perfformio ar lwyfannau o amgylch Gogledd Cymru yn rheolaidd ac mae hyd yn oed wedi perfformio tramor. Rhai o uchafbwyntiau perfformio Alistair hyd yn hyn yw rhannu llwyfan gyda Paul Young ac agor y llwyfan i Dafydd Iwan.
Cyrhaeddodd Alistair rownd derfynol Cân i Gymru yn 2008 gyda’r gân Crwysau Gwyn ac yna ddoth yn drydydd yn 2020 gyda'i gân 'Morfa Madryn' sef cân wedi’i hysgrifennu am ei brofiad fel plentyn o gerdded adre ar hyd llwybr Morfa Madryn.
Yn 2023 enillodd Alistair Cân i Gymru gyda'r gân Patagonia. Mae'r gân, fel mae'r teitl efallai yn awgrymu, wedi selio ar hanes sefydlu'r wladfa ym Mhatagonia. Curodd y gân dros cant o ganeuon o safon uchel i gyrraedd y rownd terfynol. Dylan Morris perfformiodd y gân yn fyw ar S4C ar noson 3ydd o Fawrth ar raglen Cân i Gymru yn Aberystwyth.
Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau teithio a gwylio pêl droed. Mae’n byw yn Sir Conwy gyda’i wraig a’i dau blentyn.
Disgograffeg
golygu- Neith Digon Ddim Digoni - Recordiau Sain - 2006
- Croeso Nol - Recordiau'r Llyn - 2008
- Hardd Hafan Hedd - Recordiau'r Llyn - 2008
- Ble'r Wyt Ti Nawr - Recordiau'r Llyn - 2010
- Y Daith - Recordiau'r Llyn - 2013
- Crwysau Gwyn - Recordiau'r Llyn - 2014
- Grym Y Gan - Recordiau'r Llyn - 2016
- Yr Albwm Nadolig - Recordiau'r Llyn - 2017
- Morfa Madryn - Recordiau'r Llyn - 2020
- Tan Tro Nesa - Recordiau'r Llyn - 2022[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Capital Breakfast with Alistair James". Capital (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Ebrill 2023.
- ↑ "Alistair James - Tan tro nesa". Siop Cwlwm. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-20. Cyrchwyd 20 Ebrill 2023.