Llanfairfechan

Tref fach a chymuned ar arfordir ogleddol Sir Conwy

Tref fach a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfairfechan[1][2] ("Llanfair" ar lafar yn lleol). Saif ar arfordir ogleddol y sir, rhwng Penmaenmawr a Chonwy i'r dwyrain ac Abergwyngregyn a dinas Bangor i'r gorllewin. Mae ffordd ddeuol yr A55 yn rhedeg yn agos i'r dref, rhyngddi a'r traeth, ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn ogystal. Mae Caerdydd 204.2 km i ffwrdd o Llanfairfechan ac mae Llundain yn 326.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.4 km i ffwrdd.

Llanfairfechan
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPleveleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.253°N 3.973°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000123 Edit this on Wikidata
Cod OSSH683747 Edit this on Wikidata
Cod postLL33 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r traeth yn gymharol eang ac yn ymestyn hyd Glan-môr Elias a gwarchodfa natur Madryn, ar lan Traeth Lafan, i gyfeiriad y dwyrain. Ceir pwll hwylio cychod, caffi, parc sglefrio a chyfleusterau eraill yno, ac mae'n boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Tu ôl i'r dref mae'r tir yn codi i gyfeiriaid Tal-y-Fan, Bwlch-y-Ddeufaen a bryniau cyntaf y Carneddau. Llifa Afon Ddu ("Afon Llanfairfechan") i lawr drwy'r pentref o'i tharddle yn y Carneddau i'w haber.

Hanes golygu

 
Llanfairfechan gyda Ynys Seiriol yn y cefndir.
 
Y 'Valley Road' sy'n arwain i'r bryniau, Llanfairfechan.
 
Llanfairfechan gyda Ynys Seiriol ac Ynys Mon yn y cefndir.

Ceir nifer o safleoedd cynhanesyddol ar y bryniau uwchlaw'r pentref. Y pwysicaf ohonynt heddiw yw hen fryngaer Dinas, ond roedd amddiffynfa fawr Braich-y-Dinas, ar gopa'r Penmaen-mawr, ymhlith y fwyaf yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon tan iddi gael ei dinistrio o'r diwedd trwy'r gwaith chwarel ar ddechrau'r 20g.

Fel yn achos Penmaenmawr, tyfodd y dref bresennol fel tref chwarel ithfaen a thref glan môr o ganol y 19g ymlaen. Ar un adeg bu canoedd o ddynion yn gweithio yn chwarel y Penmaen-mawr, ond erbyn heddiw mae'r gwaith chwarel wedi peidio i bob pwrpas ar yr ochr yma i'r mynydd.

Yr iaith Gymraeg golygu

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 50.4% o boblogaeth y dref y medru'r Gymraeg. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 20.8% ond yn gymharol isel mewn cymhariaeth â lleoedd fel Bethesda, cwta 8 milltir i'r de-orllewin tra'n uwch o gryn dipyn na'r lefel yng ngweddill trefi arfordirol sir Conwy. Ceir y canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 10-14, gyda 70% yn rhugl yn yr iaith.

Ysgolion golygu

Mae gan Llanfairfechan ddwy ysgol ddwyieithog, sef

  • yr Ysgol Babanod (plant llai, hyd flwyddyn 2)
  • Ysgol Pant-y-Rhedyn (ysgol gynradd, blwyddyn 3-6).

Gorwedd Ysgol Pant-y-rhedyn yn nhalgylch Ysgol Aberconwy ac Ysgol Y Creuddyn yn sir Conwy ac Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd.

Enwogion golygu

Herbert Luck North (1871-1941), pensaer arloesol

Natur golygu

Cafodd arolwg ei wneud yn Awst 2017 gan y Marine Conservation Society i mewn i lefelau sbwriel ar draeth Llanfairfechan.[3] Casgliwyd 760 eitem o sbwriel, gyda chyfartaledd o 7.60 eitem y metr o draeth.

Mae gan Llanfairfechan boblogaeth uchel iawn o goed, ac felly mae'n gartref hefyd i sawl math wahanol o adar.

Mewn diwylliant poblogaidd golygu

Ymddangosodd y pentref yn y cyfresi teledu canlynol:

Ceid cyfeiriadau rheolaidd at y dref gan Wali Tomos yn y gyfres gomedi C'mon Midffild oherwydd y tebygrwydd rhwng rhan olaf yr enw ('-fechan') a'r gair "rhechan".

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfairfechan (pob oed) (3,637)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfairfechan) (1,646)
  
46.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfairfechan) (2275)
  
62.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfairfechan) (549)
  
36%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. https://www.janetfinchsaunders.org.uk/sites/www.janetfinchsaunders.org.uk/files/2017-08/Llanfairfechan%20-%20Survey%2010%20Aug%202017.pdf
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.