Mae All Er Nuthin' yn gân o'r sioe gerdd Oklahoma! a'r ffilm o'r un enw a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Richard Rodgers a'r libretydd Oscar Hammerstein II.[1]

Cyd-destun golygu

Mae'r gân hon tua diwedd y sioe, lle mae'r cymeriadau eilaidd Will Parker ac Ado Annie Carnes yn penderfynu priodi. Mae Will yn bwyllog oherwydd ei fod yn gwybod mai Ado yw'r ferch na all ddweud na i ddynion sydd yn ei ffansio.

I heared how you was kickin' up some capers
When I was off in Kansas City, Mo
I heard some things you couldn't print in papers
From fellers who been talkin' like they know! [2]

Mae Will yn gofyn am addewid o ffyddlondeb gan Annie, sy'n cytuno i fod yn ffyddlon iddo.

Wedi addo bod yn ffyddlon mae Annie yn sôn am ei gobeithion am blant:

Will: He'd better look a lot like me!
Ado Annie: The spitt'n' image! [2]

Yn ail ran y gan mae Will yn fflyrtian gydag ychydig o ferched eraill. Mae Annie wedyn yn canu am safonau dwbl Will adynion yn gyffredinol. Mae'n awgrymu bod dyn yn disgwyl i'w wraig fod yn ffyddlon tra ei fod ef yn parhau i fod yn "wyllt a rhydd." Mae Will yn falch pan mae'n ymddangos bod Annie am dderbyn ei safonau dwbl, ond mae Annie yn gadael iddo wybod na fydd hynny'n digwydd:

So I ain't gonna fuss, ain't gonna frown
Have your fun, go out on the town,
Stay up late, and don't come home till three!
And go right off to sleep if you're sleepy.
There's no use waitin' up fer me! [2]

Mae Annie yn cytuno i briodi, ond dim ond ar delerau lle maer ddau yn ffyddlon i'w gilydd.

Gweler hefyd golygu

Y gân I Cain't Say No, tua dechrau'r sioe, pan mae Annie yn egluro i'w ffrind Laurey am ei anhawster i "ddweud na" i ddynion sy'n dangos diddordeb cariadus tuag ati.

Dolenni allanol golygu

Fideo Youtube o All Er Nuthin gyda Gene Nelson a Gloria Grahame yn chware rhannau Will ac Ado Annie.

Cyfeiriadau golygu

  1. Roden, Timothy; Wright, Craig; Simms, Bryan (17 April 2009). Anthology for Music in Western Civilization. Cengage Learning. t. 1714. ISBN 1-111-78420-5.
  2. 2.0 2.1 2.2 Genius Music All Er Nothin' by Richard Rodgers adalwyd 30 Ionawr 2019