Alltami
Pentref bychan yng nghymuned Bwcle, Sir y Fflint, Cymru, yw Alltami.[1][2] Fe'i lleolir i'r gogledd-orllewin o dref Fwcle ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Wyddgrug. Saif ar ffordd yr A494 sy'n rhedeg o Ellesmere Port i Ddolgellau. Mae nant, Alltami Brook, yn rhedeg trwy'r pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1822°N 3.0983°W |
Cod OS | SJ266656 |
Tirnodau
golyguYn Alltami adeiladwyd un o'r capeli cyntaf y Methodistiaid Cyntefig yng Ngogledd Cymru, sef Bryn Methodist Church. Dechreuodd yr eglwys yn ystod gwersyllgyfarfod haf ym Mryn y Baal ym 1836, dan arweiniad Henry Brining o Gaer. Adeiladwyd eglwys yn Alltami yn 1838, ac fe'i hestynnwyd ddiwedd y degawd dilynol i gynnwys ystafelloedd ysgol. Erbyn 1933 dechreuodd Alltami Brook, sy'n llifo gerllaw, i niweidio sylfeini'r eglwys. Cafodd y broblem ei datrys a gwnaethpwyd gwelliannu ychwanegol dros y blynyddoedd.[3]
Saif Greenbank Farmhouse, adeilad rhestredig Gradd II, dim pell o'r pentref. Mae'r ffermdy yn dyddio i'r 1860au, pan gafodd ei ailadeiladu a'i ailfodelu ynghyd â dwy fferm arall yn yr ardal, Ty'n y Caeau a Rhosychellis (sydd bellach wedi'i ddymchwel).[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Mai 2022
- ↑ "Bryn Methodist Church, Alltami, Nr. Mold". Myprimitivemethodists.org.uk. Cyrchwyd 25 Ebrill 2016.
- ↑ "Greenbank Farm Farmhouse, Northop". British Listed Buildings. Cyrchwyd 25 Ebrill 2016.
- ↑ "Tavern". Viamichelin.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2016. Cyrchwyd 25 Ebrill 2016.