Dolgellau
Tref farchnad a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Dolgellau. Saif yn ne'r sir, ger mynydd Cader Idris. Mae afon Wnion, un o lednentydd Afon Mawddach, yn llifo trwy’r dref gan basio dan Y Bont Fawr.
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Gefeilldref/i | Gwenrann ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Llanfachreth ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7431°N 3.8856°W ![]() |
Cod SYG | W04000061 ![]() |
Cod OS | SH728178 ![]() |
Cod post | LL40 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Mae Caerdydd 148.3 km i ffwrdd o Ddolgellau ac mae Llundain yn 292.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 56 km i ffwrdd. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]
Hanes ac economiGolygu
Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordoficiaid, sef un o lwythau Celtaidd Cymru a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OC 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr ymherodwyr Hadrian a Trajan ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.
Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12g, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol oedd maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar Ddolgellau tan deyrnasiad Harri VII (1485-1509).
Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12g (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionnydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr; saif Senedd-dy Owain Glyndŵr ar hen safle'r senedd wreiddiol.
Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.
Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18g cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19g oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol a diwedd y gaethfasnach. Allforio gwlan Cymreig i wisgo caethweision ym mhlanhigfeydd America oedd un o brif farchnadoedd y diwydiant[3]. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.
Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19g, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.
Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.
Yr enw "Dolgellau"Golygu
Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw 'Dolgellau'. Mae’n debyg y tardd o'r geiriau “dol” a “gelli”, er yr awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.
Ceir yr enghreifftiau cynharaf o enw'r dref mewn cofnodion gwladol Seisnig ac felly maent yn llurguniadau o'r Gymraeg. "Dolkelew" yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd[4], ond gwelir y sillafiad "Dolgethley" ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg ll). Mewn dogfen a luniwyd ar gyfer Owain Glyndŵr, ceir y ffurf "Dolguelli". Wedi hynny tan y 19g, gwelir sillafiadau megis "Dolgelley", "Dolgelly" neu "Dolgelli". Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf "Dolgelleu" yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn. Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf "Dolgellau", a mabwysiadodd Robert Vaughan o'r Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl fod y ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai "Dol Cellau" yw tarddiad yr enw. Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: "Dolgellau" a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Ngysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad "Dolgelley" ar arwyddion ffordd tan yn ddiweddar iawn.
Cysylltiadau llenyddolGolygu
Yn Nolgellau roedd yr awdur Cymraeg Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd y nofel Y Stafell Ddirgel sy'n seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau i'r Amerig ym 1686.
Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn yr Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Adnabyddir ei gasgliad wrth yr enw Llawysgrifau Hengwrt.
Bu sawl bardd a llenor o bwys yn byw yn yr ardal, gan gynnwys Dafydd Ionawr, O. M. Lloyd, Bethan Gwanas, Morus Cyfanedd ac Ioan Bowen Rees.
Yn y byd cerddorol bu Dolgellau yn gartref i ddiwylliant gwerin Cymru. Roedd gwyl werin yno yn y 1950au a ddilynwyd yn y 70au a'r 80au gan yr Wyl Werin Geltaidd, Dilynwyd honno gan y Sesiwn Fawr yn 1990au hyd heddiw, fel a welir isod. Ond hefyd daeth cerddoriaeth werin o'r dref gyda Cilmeri (grwp), Côr Gwerin y Gader, Defaid a Gwerinos dros gyfnod o ugain mlynedd o'r 1980au ymlaen. Bu sesiynau gwerin mewn tafarndai yn rhan naturiol o fywyd y dref hefyd drwy'r cyfnod hwn gyda sefydlu Tŷ Siamas yn benllanw.
Atyniadau lleolGolygu
Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob flwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, beicio mynydd, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.
Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym 1868. Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching. Heddiw rhed "Llwybr Mawddach", sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.
Mae atyniadau hanesyddol yn cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref. Mae hefyd mynwent Crynwyr yn y dref. Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir gan rai â'r Brenin Arthur (gweler Camlan).
Digwyddiadau diwylliannolGolygu
Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd "Sesiwn Fawr" yn Nolgellau. Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau. Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad. Defnyddiwyd yr arian i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Steve Earle, Mike Peters, a Super Furry Animals. Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop. Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.
Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair. Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondiau i achosau elusengar.
Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Pobl o DdolgellauGolygu
- Idris ap Gwyddno, brenin Teyrnas Meirionnydd (bu farw tua 636). Y dyn go iawn tu ôl i chwedl Idris Gawr, o bosib.
- Y Barwn Lewys ab Owain (bu f 1555) Is-Siamberlen Gogledd Cymru, Barwn y Dysorlys ac erlidiwr Gwylliaid Cochion Mawddwy
- John Elis (1598 - 1665). Rheithor Dolgellau a noddwr Ysgol Ramadeg y dref
- Rowland Ellis Crynwr ac un o sylfaenwyr parth Gymreig Pennsylvania
- Henry Owen (1716 – 1795) , clerigwr, meddyg, ac ysgolhaig
- David Elis (1736 – 1795), ysgolhaig
- Dafydd Ionawr (1751-1827) Bardd
- Hugh Reveley (1772 - 1851) tirfeddiannwr ystâd Bryn y Gwin
- Parch Hugh Pugh, Brithdir, (1779 – 1809) Gweinidog cyntaf Annibynwyr Dolgellau
- Parch Cadwaladr Jones, (Yr Hen Olygydd) Ail weinidog Annibynwyr, Dolgellau a golygydd Y Dysgedydd
- Thomas Richards (1800 - 1877) Meddyg, newyddiadurwr a llenor yn Hobart, Tasmania
- Parch Roger Edwards (1811 – 1886) awdur
- Eliezer Pugh (1814-1903), dyngarwr
- Evan Jones (Ieuan Gwynedd) (1820 -1854) Bardd, awdur ysgrifau a newyddiadurwr
- Thomas Jones (Gogrynwr) (1822 – 1854), Cerddor a meddyg
- John Jones (Idris Fychan) (1825-1887), telynor a llenor, cyfaill i Geiriog
- Edward Jones (1834-1900)- meddyg ac arweinydd llywodraeth leol [8]
- Henry Lloyd (ap Hefin) (1870-1946) awdur yr emyn I bob un sydd ffyddlon
- O. M. Lloyd (1910-1980) Bardd a gweinidog capel y Tabernacl 1955-1978
- Ioan Bowen Rees (1929 – 1999) Prifweithredwr cyntaf Cyngor Sir Gwynedd
- Beryl Williams (1937-2004) actor
- John Elwyn Jones awdur Pum Cynnig I Gymro
- Bethan Gwanas (g. 1962), awdur
- Iwan "Iwcs" Roberts (g. 1967), actor, canwr a thelynegwr
- Martin Phillips Chwaraewr Dartiau
GefeilldrefGolygu
Gefeilliwyd Dolgellau â Gwenrann yn Llydaw (Gwenrann yw'r enw Llydaweg: Guérande yw'r enw Ffrangeg).
Oriel LuniauGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Evans, C. P. (Chris P.) (2010). Slave Wales : the Welsh and Atlantic slavery, 1660-1850. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2304-5. OCLC 700466934.
- ↑ Ellis, Thomas Peter The STORY OF TWO PARISHES DOLGELLEY & LLANELLTYD The Welsh Outlook Press Newtown 1928 (fersiwn ar lein http://www.rootsweb.ancestry.com/~wlsmer2/DolgaLLan/dolgelley_church.htm) adalwyd 14 Hydref 2013
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ "JONES, EDWARD (1834-1900), meddyg ac arweinydd llywodraeth leol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-19.
Dolennau allanolGolygu
- Sesiwn Fawr Archifwyd 2017-08-13 yn y Peiriant Wayback.
- Dolgellau.net
- Hanes Dolgellau
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw ·
Y Bala ·
Bethesda ·
Blaenau Ffestiniog ·
Caernarfon ·
Cricieth ·
Dolgellau ·
Harlech ·
Nefyn ·
Penrhyndeudraeth ·
Porthmadog ·
Pwllheli ·
Tywyn
Pentrefi
Aberangell ·
Aberdaron ·
Aberdesach ·
Aberdyfi ·
Abererch ·
Abergwyngregyn ·
Abergynolwyn ·
Aberllefenni ·
Abersoch ·
Afon Wen ·
Arthog ·
Beddgelert ·
Bethania ·
Bethel ·
Betws Garmon ·
Boduan ·
Y Bont-ddu ·
Bontnewydd (Arfon) ·
Bontnewydd (Meirionnydd) ·
Botwnnog ·
Brithdir ·
Bronaber ·
Bryncir ·
Bryncroes ·
Bryn-crug ·
Brynrefail ·
Bwlchtocyn ·
Caeathro ·
Carmel ·
Carneddi ·
Cefnddwysarn ·
Clynnog Fawr ·
Corris ·
Croesor ·
Crogen ·
Cwm-y-glo ·
Chwilog ·
Deiniolen ·
Dinas, Llanwnda ·
Dinas, Llŷn ·
Dinas Dinlle ·
Dinas Mawddwy ·
Dolbenmaen ·
Dolydd ·
Dyffryn Ardudwy ·
Edern ·
Efailnewydd ·
Fairbourne ·
Y Felinheli ·
Y Ffôr ·
Y Fron ·
Fron-goch ·
Ffestiniog ·
Ganllwyd ·
Garndolbenmaen ·
Garreg ·
Gellilydan ·
Glan-y-wern ·
Glasinfryn ·
Golan ·
Groeslon ·
Llanaber ·
Llanaelhaearn ·
Llanarmon ·
Llanbedr ·
Llanbedrog ·
Llanberis ·
Llandanwg ·
Llandecwyn ·
Llandegwning ·
Llandwrog ·
Llandygái ·
Llanddeiniolen ·
Llandderfel ·
Llanddwywe ·
Llanegryn ·
Llanenddwyn ·
Llanengan ·
Llanelltyd ·
Llanfachreth ·
Llanfaelrhys ·
Llanfaglan ·
Llanfair ·
Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) ·
Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) ·
Llanfihangel-y-traethau ·
Llanfor ·
Llanfrothen ·
Llangelynnin ·
Llangïan ·
Llangwnadl ·
Llwyngwril ·
Llangybi ·
Llangywer ·
Llaniestyn ·
Llanllechid ·
Llanllyfni ·
Llannor ·
Llanrug ·
Llanuwchllyn ·
Llanwnda ·
Llanymawddwy ·
Llanystumdwy ·
Llanycil ·
Llithfaen ·
Maentwrog ·
Mallwyd ·
Minffordd ·
Minllyn ·
Morfa Bychan ·
Morfa Nefyn ·
Mynydd Llandygái ·
Mynytho ·
Nantlle ·
Nantmor ·
Nant Peris ·
Nasareth ·
Nebo ·
Pant Glas ·
Penmorfa ·
Pennal ·
Penrhos ·
Penrhosgarnedd ·
Pen-sarn ·
Pentir ·
Pentrefelin ·
Pentre Gwynfryn ·
Pentreuchaf ·
Pen-y-groes ·
Pistyll ·
Pontllyfni ·
Portmeirion ·
Prenteg ·
Rachub ·
Y Rhiw ·
Rhiwlas ·
Rhos-fawr ·
Rhosgadfan ·
Rhoshirwaun ·
Rhoslan ·
Rhoslefain ·
Rhostryfan ·
Rhos-y-gwaliau ·
Rhyd ·
Rhyd-ddu ·
Rhyduchaf ·
Rhydyclafdy ·
Rhydymain ·
Sarnau ·
Sarn Mellteyrn ·
Saron ·
Sling ·
Soar ·
Talsarnau ·
Tal-y-bont, Abermaw ·
Tal-y-bont, Bangor ·
Tal-y-llyn ·
Talysarn ·
Tanygrisiau ·
Trawsfynydd ·
Treborth ·
Trefor ·
Tre-garth ·
Tremadog ·
Tudweiliog ·
Waunfawr