Allwedd (cerddoriaeth)
Allwedd (neu gleff a ddaw o'r gair Ffrangeg am allwedd) yw symbol gerddorol a ddefnyddir i ddynodi traw nodyn ysgrifenedig. Wedi'i lleoli ar un o'r llinellau ar ddechrau'r erwydd, dengys enw a thraw y nodau ar y llinell honno. Mae'r llinell hon yn bwynt cyfeirio a allai gael ei ddefnyddio i benderfynu enwau'r nodau ar unrhyw linell neu fwlch ar yr erwydd.