Alma Rogge
Awdures o'r Almaen oedd Alma Rogge (24 Gorffennaf 1894 - 7 Chwefror 1969). Fe'i ganed yn Brunswarden, Rodenkirchen a bu farw yn Bremen, sydd hefyd yn yr Almaen.[1][2][3]
Alma Rogge | |
---|---|
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1894 ![]() Rodenkirchen ![]() |
Bu farw | 7 Chwefror 1969 ![]() Bremen ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Magwraeth a cholegGolygu
Ganwyd Alma i saer, Awst Rogge, a'i wraig. Mynychodd yr ysgol bentref cyn symud i'r ysgol gyhoeddus yn Rodenkirchen. Fel myfyriwr, roedd ganddi lyfr nodiadau a phensil bob amser i gymryd nodiadau o ddigwyddiadau arbennig. Pan oedd yn 17 oed, anfonodd ei rhieni hi i ysgol breswyl yn Bad Kreuznach, tref yn nhalaith Rheinland-Pfalz. Yno ysgrifennodd ei cherddi cyntaf a breuddwydiodd am ddod yn fardd. Un o'i chyd-ddisgyblion oedd Hanna Wisser, merch Wilhelm Wisser, athro ysgol uwchradd yn Oldenburg, a adwaenid fel "athro chwedlau tylwyth teg" a gasglodd chwedlau a straeon tylwyth teg yr Iseldiroedd. Anogodd Wilhelm hi i ysgrifennu drama mewn Sacsoneg Isel. Gwnaeth hyn, yn gyfrinachol pan gai gyfle a rhoddodd y teitl On Freiersfüßen (Almaeneg: Up de Freete) i'r ddrama. Parhaodd i ysgrifennu cerddi a thestunau telynegol sydd wedi'u cyhoeddi mewn papurau newydd amrywiol. Perfformiwyd On Freiersfüßen ar lwyfan y pentref yn Rodenkirchen a chafodd gymaint o lwyddiant fel y daeth Richard Ohnsorg yn Hamburg yn ymwybodol ohono.
Awdur a golygyddGolygu
Yn 1932, symudodd Alma Rogge i Bremen, gan sefydlu ei hun fel awdur llawrydd. Ysgrifennodd ddramâu llwyfan Sacsoneg Isel (Niederdeutsche Sprache) ac Uchel (yr Oberdeutsch) a gyhoeddwyd mewn print, ar y radio a pherfformiodd Theatr Hamburg Ohnsorg y gwaith sawl tro o dan y teitl Twee Kisten Rum (Dwy Gasgen o Rym).
AelodaethGolygu
Bu'n aelod o 'Eutiner Dichterkreis' (Cymdeithas Beiirdd Eutin).
DyfyniadGolygu
“ |
|
” |
Lled-gyfieithiad:
- Yn y fan lle'm ganed
- mae'r wlad yn rhydd ac am ddim,
- mae'r glaswellt yn tyfu a'r blodau meillion,
- mae'r aer yn arogli o halen a môr,
- dŵr gloyw'n llifo
- yn hela'r cymylau, a'r gwynt yn chwythu
- Yn y fan lle'm ganed.
AnrhydeddauGolygu
Gwaith detholGolygu
- 1924: De Straf : pläseerlich Spill in eenen Törn. Hamburg: Hermes
- 1926: De Straf – Regie
- 1929: Sine: Vertelln in Ollnborger Platt, Hamburg: Quickborn-Verl.
- 1935: Leute an der Bucht; Erzählungen, Bremen: Schünemann
- 1936: Dieter und Hille: Eine Liebesgeschichte, Bremen: Schünemann
- 1936: Hans Böttcher
- 1936: Wer bietet mehr?
- 1937: Hinnerk mit 'n Hot
- 1938: Wangerooge
- 1939: In der weiten Marsch
- 1943: An Deich und Strom
- 1948: Theda Thorade
- 1949: Der Nagel unter Lenas Fenster
- 1953: In de Möhl - Regie
- 1955: De Vergant-Schoster
- 1955: Dor harr'n Uhl seten
- 1955: Op de Freete
- 1956: Twee Kisten Rum
- 1963: De Straaf
- 1964: De Vergant-Schoster
- 1966: Twee Kisten Rum
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Rhyw: (yn mul) Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 25407778, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014