Wicidata
Prosiect cydweithredol, byd-eang ydy Wicidata gan gymuned Wicimedia (neu Wicifryngau); fe'i bwriedir i ganoli data ar gyfer prosiectau megis Wicipedia,[1] fel a wneir gyda Comin Wicimedia. Mae'r cynnwys, fel gyda gweddill y teulu "Wici" wedi'i drwyddedu ar ffurf cynnwys rhydd, agored tebyg i'r CC-BY-SA a ddefnyddir ar y wici hwn.
Hafan Wicidata | |
URL | www.wikidata.org |
---|---|
Masnachol? | Nag ydy |
Ieithoedd | Amlieithog |
Perchennog | Wikimedia Foundation |
Crewyd gan | Cymuned Wicifryngau |
Laniswyd | 30 Hydref 2012 |
Y defnydd ar y Wicipedia Cymraeg
golyguCafodd ei lansio ar 30 Hydref 2012 ac ar 21 Chwefror y flwyddyn ganlynol fe'i gwelwyd oddi fewn i'r Wicipedia Cymraeg pan ddechreuwyd canoli'r dolennau ieithoedd. Y bwriad gwreiddiol oedd cadw data ffeithiol nad yw'n newid (e.e. hyd afon neu ddyddiad geni) yn ganolog, gyda'r wybodaeth honno'n cael ei galw'n otomatig i wybodlenni a phrosiectau eraill Wicimedia.
Ar 19 Tachwedd 2015, ychwanegwyd rhestr o baentiadau ar y ddalen Rhestr o luniau gan Jacob van Ruisdael, a oedd yn defnyddio'r "Nodyn:Wikidata list" i alw'r data o gronfa ddata Wicidata i'r dudalen ar Wicipedia. Ym Mehefin 2016 crëwyd rhestr o eglwysi a enwyd ar ôl Beuno, ac erbyn Hydref y flwyddyn honno crëwyd 9,500 o restri Wicidata ar adar gyda phob un ohonynt hefyd yn tynnu llif i'r wybodlen drwy ddefnyddio'r Nodyn:Blwch tacson. Yng Ngorffennaf 2016 galluogwyd Gwybodlen gyfan a oedd yn tynnu data o Wicidata: Telesgop Pegwn y De. Erbyn Rhagfyr 2016 roedd gan cy-wici dair gwaith mwy o restri Wicidata na phob Wicipedia arall (dros 290 o ieithoedd) gyda'i gilydd 17,100) a phob un o'r rhain yn tynnu llif otomatig o Wicidata.
Gwybodlenni
golyguCeir Categori o ddynodwyr (neu 'codau-Q') sydd heb gyfieithiad yn Categori:Tudalennau gydag elfennau o WD heb eu cyfieithu.
Rhoddwyd y canlynol:
- yn gyfan (gyda'r wybodlen gyfan yn dod o Wicidata)
- Nodyn:Gwybodlen telesgop/Wicidata; Gorffennaf 2016
- Nodyn:Gwybodlen person/Wicidata; Gorffennaf 2017
- Nodyn:Gwybodlen cwmni/Wicidata; Hydref 2017
- Nodyn:Cyffuriau; Hydref 2017; ar gyfer cyffuriau meddygol
- Nodyn:Gwybodlen genyn Ionawr 2018; ar gyfer genynnau
- Nodyn:Gwybodlen lle Hydref 2018; ar gyfer pob erthygl am leoliad ee gwlad, tref, pentref, castell, cromlech, afon ayb.
- yn rhannol (gyda rhan o'r wybodlen yn cymryd llif uniongyrchol o Wicidata)
- Nodyn:Blwch tacson; addaswyd y wybodlen a oedd yn bodoli'r barod ar gyfer llif Wicidata a'i rhoi ar dros 9,000 o erthyglau newydd ar adar.
Gweler hefyd
golygu- Cymorth:Wicidata - geirfa
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Data Revolution for Wikipedia". Wikimedia Deutschland. March 30, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-11. Cyrchwyd September 11, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)