Beirniad cerddoriaeth ac awdur am jazz o Gymro oedd Alun Morgan (24 Chwefror 192811 Tachwedd 2018).[1]

Alun Morgan
Ganwyd24 Chwefror 1928 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, newyddiadurwr cerddoriaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Mhontypridd. Magodd Morgan ei ddiddordeb mewn jazz fel plentyn yn ei arddegau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu Charlie Parker yn ddylanwad sylweddol arno yn y 1940au hwyr. Dechreuodd Morgan  ysgrifennu am jazz yn y 1950au cynnar ar gyfer Melody Maker, Jazz Journal, Jazz Monthly a Gramophone. Am 20 mlynedd o 1969 bu'n awdur wythnosol colofn jazz mewn papur newydd lleol yn Swydd Caint. Yn ystod ei yrfa ysgrifennu bu'n gyfrifol am greu nodiadau clawr ar gyfer dros 2,500 o albymau, i gychwyn  ar gyfer Recordiau Vogue. O 1954 bu'n cyfrannu at raglenni cerdd ar gyfer Radio'r BBC.

Roedd Morgan yn awdur llyfr ar jazz cyfoes yn Lloegr ac yn  gyd-awdur nifer o lyfrau am recordiau jazz. Bu'n darlithio ar jazz yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall a'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Hyd ei ymddeoliad ym 1991 bu hefyd yn gweithio fel pensaer. Ychydig wedi ei ymddeoliad ymfudodd i Awstralia.[2]

Gweithiau golygu

  • 1998, 1995: The Gramophone Jazz Good CD Guide, gyda Keith Shadwick, Dave Gelly, Steve Voce a Brian Priestley, Gramophone Publications
  • 1984: Count Basie, (cyfres Jazz Masters ), Spellmount Publishers
  • 1977: Modern Jazz - A survey of developments since 1939, gyda Raymond Horricks, Llundain, Gollancz, 1956; Westport, CT, Greenwood Publishing
  • 1975: Modern Jazz-The Essential Records, gyda Max Harrison, Ronald Atkins, Michael James a Jack Cooke, Aquarius Books
  • 1968: Jazz on record: a critical guide to the first 50 years, gyda Albert McCarthy, Paul Oliver a Max Harrison, Llundain: Hanover Books; Efrog Newydd: Oak Publications
  • 1960: Jazz On Record: A Critical Guide, gyda Charles Fox, Peter Gammond ac Alexis Korner, Grey Arrow/Hutchinson

Cyfeiriadau golygu