Alva Belmont
Ffeminist Americanaidd oedd Alva Belmont, (17 Ionawr 1853 - 26 Ionawr 1933) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cymdeithaswr a swffragét. Rhwng 1875 i 1896, fe'i hadwaenid fel Alva Vanderbilt. Roedd yn filiwnydd ac yn ffigwr mawr yn yr ymgyrch i gael pleidleis i ferched America, sef yr hyn a elwir yn "etholfraint". Ar 12 Ebrill 2016 fe'i anrhydeddwyd gan yr Arlywydd Barack Obama a chodwyd cofeb Belmont-Paul Women's Equality National Monument yn Washington, D.C.[1][2][3][4][5][6][7][8]
Alva Belmont | |
---|---|
Ganwyd | Alva Erskine Smith 17 Ionawr 1853 Mobile |
Bu farw | 26 Ionawr 1933 Augerville-la-Rivière, Paris |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cymdeithaswr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, noddwr y celfyddydau, gweithredydd gwleidyddol |
Adnabyddus am | Marble House |
Tad | Murray Forbes Smith |
Mam | Phoebe Desha |
Priod | William Kissam Vanderbilt I, Oliver Belmont |
Plant | William Kissam Vanderbilt II, Harold Stirling Vanderbilt, Consuelo Vanderbilt |
I rai pobl, roedd ei hagwedd aristocrataidd yn groes i'r graen. Ond beth bynnag eu barn, roedd ganddi egni eithriadol, deallusrwydd, barn bendant a'r hyder i herio'r drefn.[9][10]
Yn 1909, sefydlodd y Gynghrair Cydraddoldeb Gwleidyddol (Political Equality League) i annog etholwyr i bleidleisio i'r rhai hynny a oedd o blaid etholfraint, yr hawl i fenywod bleidleisio. Ysgrifennai lythyrau i'r papurau ac ymunodd â Chymdeithas Menywod Menywod Cenedlaethol America, sef NAWSA (National American Woman Suffrage Association (NAWSA)). Yn ddiweddarach ffurfiodd ei Chynghrair Cydraddoldeb Gwleidyddol ei hun (Political Equality League) yn Ninas Efrog Newydd, i ymgyrchu dros etholfraint yn Efrog Newydd, ac fel ei llywydd, arweiniodd y New York City's 1912 Women's Votes Parade.
Yn 1916, roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol y Menywod a threfnodd y piced, neu'r brotest gyntaf erioed gan fenywod, a hynny o flaen y Tŷ Gwyn, yn Ionawr 1917. Fe'i hetholwyd yn Llywydd Plaid Genedlaethol y Menywod, swydd a gyflawnodd hyd at ei marwolaeth.
Magwraeth
golyguGaned Alva Erskine Smith yn 201 Government Street, Mobile, Alabama ar 17 Ionawr 1853; bu farw yn Augerville-la-Rivière, Loiret, ffrainc ac fe'i claddwyd ym Mynwent Woodlawn.
Ei rhieni oedd: Murray Forbes Smith, marchnatwr, a Phoebe Ann Desha. Roedd Murray Smith yn fab i George Smith a Delia Forbes of Dumfries, Virginia ac roedd Phoebe Desha yn ferch i'r Cynrychiolydd US (Representative) Robert Desha ac Eleanor Shelby, o Sumner County, Tennessee.
Priododd ddwywaith, yn gyntaf i William Kissam Vanderbilt, a chawsant dri o blant, ac yn ail i Oliver Hazard Perry Belmont. Roedd y ddau'n filiwnyddion ac yn aelodau blaenllaw o'r gymdeithas.[11][12][12][13][14]
Mae Alva'n adnabyddus hefyd am ei hadeiladau, gan gynnwys y Petit Chateau yn Ninas Efrog Newydd, the Marble House yn Newport, Rhode Island, the Belmont House, Efrog Newydd; Brookholt ar Long Island; a Beacon Towers yn Sands Point, Efrog Newydd.
Roedd William Kissam Vanderbilt II, Harold Stirling Vanderbilt a Consuelo Vanderbilt yn blant iddi. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig a ysgrifennodd y mae: Marble House.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas America dros yr Hawl i Ferched Bleidleisio am rai blynyddoedd. [15][16]
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Presidential Proclamation -- Establishment of the Belmont-Paul Women's Equality National Monument)". "archives.gov". Cyrchwyd 2016-04-12.
- ↑ Rhyw: https://research.frick.org/directory/detail/2610.
- ↑ Dyddiad geni: "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Stirling Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Smith". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Dyddiad marw: "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Stirling Belmont". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Erskine Smith". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alva Belmont". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Man claddu: https://fr.findagrave.com/memorial/3711/alva-erskine_stirling-belmont. dyddiad cyrchiad: 20 Rhagfyr 2023.
- ↑ Enw genedigol: https://www.britannica.com/biography/Alva-Belmont. Encyclopædia Britannica. dyddiad cyrchiad: 17 Rhagfyr 2023.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ "Alva (Erskine Smith Vanderbilt) Belmont". "biography.com". Cyrchwyd 2007-01-03.
- ↑ Viens, Katheryn. "Belmont, Alva Erskine Smith Vanderbilt". "American National Biography Online". Cyrchwyd 2008-01-03.
- ↑ Patterson, Jerry E. The Vanderbilts., tudalennau 120–121. New York: H.N. Abrams, 1989.
- ↑ 12.0 12.1 Lundy, Darryl. "A genealogical survey of the peerage of Britain as well as the royal families of Europe: Murray Forbes Smith". "The Peerage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 2007-12-09. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Society at Home and Abroad" (PDF). New York Times. October 28, 1906. Cyrchwyd 17 Chwefror 2012.
- ↑ "Married Very Quietly" (PDF). New York Times. July 22, 1888. Cyrchwyd 17 Chwefror 2012.
- ↑ Man gwaith: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 29 Ionawr 2023.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 19 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 19 Rhagfyr 2022.