Alvis Richards

Gweithwraig gymdeithasol a chyfrannwr i S4C a Radio Cymru.

Gweithwraig gymdeithasol oedd Alvis Richards (193522 Ionawr 2006) a ddaeth yn gyfarwydd fel cyfrannwr ar S4C a Radio Cymru.[1] Roedd yn hannu o'r Tymbl ger Llanelli.

Alvis Richards
Ganwyd1935 Edit this on Wikidata
Y Tymbl Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 2006 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata

Ar gychwyn y rhaglen gylchgrawn Heno yn y 1990au, roedd angen rhywun i drafod materion teuluol a phroblemau cymdeithasol. Gwahoddwyd Richards i wneud cyfweliad prawf gyda'r gyflwynwraig Siân Thomas a bu'n cyfrannu'n rheolaidd ar y rhaglen ers hynny. Bu hefyd yn gweithio i Gymdeithas y Plant. Ysgrifennodd lyfr ar broblemau teuluol cyfoes o'r enw Annwyl Alvis.

Roedd Alvis wedi dioddef o ganser y fron yn ei 50au. Bu farw o ganser yn 71 mlwydd oed yn 2006.

Cyfeiriadau golygu

  1. Alvis: Colli'r fenyw "lawn sbri" , BBC Cymru, 23 Ionawr 2006. Cyrchwyd ar 28 Mai 2006.