Llanelli

tref yn Sir Gaerfyrddin

Tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli. Dyma dref fwyaf y sir a de-orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw 12 milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw 20 milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd.

Llanelli
Neuadd y Dre
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth37,050 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAgen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.68°N 4.15°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000519 Edit this on Wikidata
Cod OSSN505005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map
Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.

Tyfodd y dref yn y 19g o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adwaenir fel Llanelli Wledig. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Hanes golygu

Diwydiant golygu

Tyfodd Llanelli yn gyflym yn ystod y 18g a’r 19g gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu tunplat. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel ranbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Ers i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe ddioddefodd y dref ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, gwelir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.

[1]

  • Marshfield
  • Batchelor Robinsons
  • Moowoods
  • Thomas & Clement
  • Gwaith y Burry
  • Yr Old Lodge
  • Fowndri Waddle
  • Yr Hen Gastell
  • Stamping (a oedd yn cynhyrchu sosbenni)

Yr Iaith Gymraeg golygu

Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael papur treth Cymraeg gan Gyngor Gwledig Llanelli drwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian at y dreth. Prynnodd cyfeillion gelfi iddynt. Bu raid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan dderbyniodd y cynghorau fod yn rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Terfysg 1911 golygu

Ar 19 o Awst 1911 yn ystod yr streic rheilffordd ledled Prydain roedd gwrthdaro rhwng milwyr rheolaidd o Gatrawd Swydd Gaerwrangon a picedi ar y llinell rheilffordd pwysig Llanelli wedi achosi marwolaeth o ddau wrthwynebwyr ifanc, roedd yr trais a'r ysbeilio, oedd wedi mynd ymlaen am nifer o oriau o ganlyniad i difrod i siopau a ochrau'r rheilffordd ac roedd pedwar mwy o farwolaethau pan aeth wagen ar dan a ffrwydrodd. Roedd nifer o erlyniadau yn dilyn ac roedd cwestiynau wedi cael ei ofyn yn y Senedd. Ysgrifennodd Keir Hardie pamffled yn ymosod y defnydd o lluoedd arfog mewn gwrthwynebau diwydiannol, serch hyn ni chafodd lawer o effaith ar y gwleidyddiaeth lleol.[2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelli (pob oed) (25,168)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelli) (5,732)
  
23.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelli) (20423)
  
81.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanelli) (4,833)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Chwaraeon golygu

Rygbi golygu

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus. Trechwyd tîm cenedlaethol Seland Newydd gan dîm rygbi Llanelli a dyma'r unig dîm lleol yng ngwledydd Prydain sydd wedi gwneud hynny.[7]

Pêl-droed golygu

Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Maen nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.

Golff golygu

Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.

Chwaraeon modur golygu

Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.

Diwylliant golygu

Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jubilee Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli.

Y Cyfryngau golygu

Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.

Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.

Mae Llanelli'n gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar yn fyw yn ddyddiol ar S4C.

Theatr a sinema golygu

Agorwyd Y Ffwrnes yn hwyr yn 2012, gan ddod yn lle yr hen Theatr Elli a oedd yn ganolfan adloniant i'r dre.[8][9] Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.

Trafnidiaeth golygu

Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.

Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn gyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.

Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i Amwythig.

Gwleidyddiaeth golygu

 
Arfbais Cyngor Trefol Llanelli
 
Neuadd Tref Llanelli

Mae tref Llanelli o fewn etholaeth seneddol Llanelli ac etholaeth Cynulliad Llanelli Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Keith Davies. Llafur (2011 - )Yn 1945 enillodd ymgeisydd Llafur (James Griffiths) y mwyafrif mwyaf yn hanes etholiadau seneddol Prydeinig (34,117) [10]

Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel leol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ar lefel sirol.

Daeth Cyngor Tref Llanelli i rym ar 1af Ebrill, 1974. Rhennir ei hardal weinyddiaeth i 5 ward: Bigyn, Elli, Glanymor, Lliedi a Tyisha, sy'n cael eu cynrychioli gan 20 cynghorydd.

Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.

Enwogion golygu

Atyniadau lleol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhai o weithfeydd tun a dur tref Llanelli hanner cyntaf yr 20G; Wyn a'i Fyd; 2009
  2. Davies, John (2008). The Welsh Academy: Encyclopaedia of Wales. Gwasg Brifysgol Cymru. t. 484. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  7. Cymru: y 100 lle i'w gweld cyn marw gan John Davies. Cyh:Y Lolfa]
  8. Gar, Theatrau Sir. "Theatrau Sir Gar".
  9. "Swansea: The latest news, sport, what's on and business from Swansea and Gower". www.llanellistar.co.uk. Cyrchwyd 5 February 2018.
  10. "Can Lle i'w gweld cyn marw John Davies. Y Lolfa". Archifwyd o'r gwreiddiol Check |url= value (help) ar 2017-10-23. Cyrchwyd 2021-02-18.

Ffynonellau golygu

Dolenni allanol golygu