Ysgolhaig a golygydd Cymreig oedd Alwyn David Rees (27 Mawrth 1911 – Rhagfyr 1974), a ysgrifennodd fel Alwyn D. Rees. Roedd yn ddarlithydd prifysgol a ddaeth yn adnabyddus fel awdur nifer o lyfrau ac fel golygydd y cylchgrawn Barn.

Alwyn D. Rees
Ganwyd27 Mawrth 1911 Edit this on Wikidata
Bu farwRhagfyr 1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgolygydd Edit this on Wikidata

Ganed Alwyn D. Rees yn Llanarel, Coalbrook, Gorseinon; roedd ei dad yn weindiwr mewn pwll glo. Daeth ei frawd Brinley Rees hefyd yn adnabyddus, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd y ddau lyfr, Celtic Heritage, sy'n ceisio gosod yr etifeddiaeth Geltaidd mewn fframwaith ehangach Indo-Ewropeaidd, ar y cyd. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn 1933. Bu'n diwtor yn Adran Allanol y coleg o 1936 hyd 1946, yna'n ddarlithydd yn yr Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg hyd 1949 pan apwyntiwyd ef yn Gyfarwyddwr yr Adran Efrydiau Allanol. Ystyrir ei lyfr Life in a Welsh countryside, astudiaeth gymdeithasegol o bentref Llanfihangel yng Ngwynfa, yn glasur.

Daeth yn olygydd y cylchgrawn Barn yn Chwefror 1966, a daeth i amlygrwydd cenedlaethol trwy ei ysgrifau ynddo. Roedd yn gefnogwr brŵd i ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu hefyd yn olygydd Yr Einion/The Welsh Anvil o 1949 hyd 1958.

Gweithiau golygu